Ar ddydd Iau, 24 Hydref ceir dau berfformiad o sioe bypedau Dygwyl y Meirw yn Theatr Felinfach. Sioe amserol iawn ar gyfer adeg y flwyddyn yn dathlu chwedlau’r hen Geltiaid.

Mae cynhyrchiad Dygwyl y Meirw yn sioe sy’n dathlu chwedlau ein hynafiaid, cylch bywyd, a sut mae merch fach yn dod i delerau a marwolaeth ei Thad-cu. Cawn gwrdd â chymeriadau traddodiadol Cymreig fel yr Hwch Ddu Gota, y Ladi Wen a Jac y Lantarn, a gyda’u help nhw mae Gwen yn darganfod bywyd newydd yn storïau ei Thad-cu, a dyfodol fel storïwr ei hun.

Ceir amrywiaeth o elfennau yn y sioe yn fiwsig, hiwmor, goleuadau iasoer, triciau theatrig, pypedau cysgod ac ysbrydion hedegog. Mae'r sioe yn gorffen ar nodyn hapus, gobeithiol.

Angela Roberts, awdures Anturiaethau Jini Mê a degau o sgriptiau eraill i blant yw awdur a chyfarwyddwr Dygwyl Y Meirw. Mae hi hefyd yn enillydd BAFTA Cymru am y Ddrama Orau i Blant. Hi hefyd yw sefydlydd cwmni cynhyrchu Seren Ddu a Mwnci.

Yn y blynyddoedd diwethaf gwelodd Angela fod bwlch i'w lenwi mewn darpariaeth bypedau i blant yn y Gymraeg. Aeth ati i greu dwy sioe lwyddiannus, Drwg a Bwystfilod, mewn partneriaeth â Theatr Bara Caws. Dygwyl Y Meirw yw ei sioe gyntaf o dan enw ei chwmni ei hun, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd y perfformiad cyntaf am 1:30 yp ar ddydd Iau 24 Medi yn targedi ysgolion cynradd Ceredigion ac yna ceir sioe deuluol am 6:00 yh. Mae’r sioe yn 45 munud o hyd ac yn cynnwys pypedau a theatr gysgod. Gwahoddir y plant i ddod i’r perfformiad mewn gwisg Calan Gaeaf.

Mae tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau am £8 i oedolion, £7 i bensiynwyr a £6 i blant. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ewch ar-lein i theatrfelinfach.cymru.

20/09/2019