Ar 1 Mai, fe wnaeth grŵp o 20 o gleientiaid o Geredigion sydd wedi cael eu hatgyfeirio i wneud ymarfer corff ymgymryd â'r her o gerdded llwybr arfordir Cymru yn rhithiol. Gwnaeth rhai pobl hyn drwy gerdded o amgylch eu ceginau, rhai yn eu gerddi a rhai wrth fynd allan yn lleol i wneud eu hymarfer corff dyddiol.

Yn gynharach eleni, dechreuodd Dawn Forster, Cydlynydd Cerdded er Lles Ceredigion Actif, sefydlu grwpiau cerdded o amgylch y sir. Bu'n rhaid gohirio'r grwpiau pan gyhoeddwyd y cyfnod cloi. Er mwyn goresgyn heriau’r cyfnod clo, gwahoddodd Dawn gleientiaid o'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) i fod yn rhan o gymuned gerdded rithiol. Er mwyn cymell pawb, anfonodd Dawn ddiweddariadau wythnosol a oedd yn dweud pa mor bell roedd cyfanswm eu camau ar y cyd wedi’u cymryd a rhannodd y lluniau a’r dyfyniadau a anfonwyd ati gan gyfranogwyr. Dywedodd Dawn: “Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel, mae pobl wedi mwynhau bod yn rhan o’r grŵp hwn yn ystod cyfnod anodd y cyfnod clo. Mae nifer wedi goresgyn heriau personol megis dod yn fwy ffit, colli pwysau, ac yn bwysicaf oll, mae wedi helpu i wella eu hiechyd meddwl.”

Cofnododd pawb a gymerodd ran yn y grŵp eu camau ar fesurydd camau, ffôn, neu Fitbit. Wrth i'r wythnosau fynd heibio, ymunodd mwy o bobl â'r her. Ar ôl dim ond pedair wythnos ers dechrau'r her, roedd y grŵp wedi llwyddo i gerdded cyfanswm o 1,404 milltir, gan lwyddo i gerdded hyd Llwybr Arfordir Cymru. Daeth i’r amlwg yn fuan mai'r her fwyaf oedd ysgogi pobl i fod yn egnïol a mwynhau teimlo'n rhan o grŵp mwy er gwaethaf heriau’r cyfnod clo. Felly, gydag un her wedi'i chyflawni, roedd y cyfranogwyr yn awyddus i fynd i'r afael â'r her nesaf, sef cwblhau'r pellter o amgylch Ynysoedd Prydain.

Mewn wyth wythnos, roedd y tîm o dros 40 o gerddwyr wedi cyflawni canlyniadau anhygoel ac wedi cerdded pellter yr holl ffordd o amgylch Ynysoedd Prydain. Roedd y cyfranogwyr yn awyddus i wynebu’r her nesaf, ond y cwestiwn oedd, i ble roedd y daith rithiol nesaf am fynd â nhw? Dywedodd Dawn: “Gan ein bod wedi cwblhau Llwybr Arfordir Cymru yn rhithiol ym mis Mai, ac o amgylch Ynysoedd Prydain i gyd ym mis Mehefin, fe gawsom ni’r syniad o gerdded o amgylch y byd ym mis Gorffennaf. Er mwyn cyflawni’r targed uchelgeisiol hwn, roeddem yn gwybod y byddai angen rhagor o gerddwyr arnom ni, a gwahoddwyd timau Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff eraill ar draws Cymru i ymuno â ni. Erbyn hyn, mae’n her Cymru gyfan; mae 11 sir yn cymryd rhan.”

Mae pob un sy’n cymryd rhan yn yr her ar hyn o bryd yn gleientiaid y cynllun NERS a gydlynir gan Ceredigion Actif a Phrosiect Cerdded er Lles Gorllewin Cymru. Cynllun ymyrraeth iechyd yw NERS sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol a thechnegau newid ymddygiad. Caiff cleientiaid eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu ac yna'u cefnogi i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw i wella eu hiechyd a’u lles.

Dywedodd un cyfranogwr, wrth edrych yn ôl ar yr her rithiol: “Bob wythnos rwy’n ceisio gwneud yn well na’r wythnos flaenorol, ac rwyf wedi rhagori yr wythnos hon, diolch am yr ysbrydoliaeth. Diolch am fy annog i barhau i gerdded.”

Gall aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn rhan o’r cynllun NERS ar hyn o bryd ymuno yn yr her Cymru gyfan ‘cerdded o amgylch y byd’ drwy anfon e-bost at Dawn Dawn.Forster@ceredigion.gov.uk am ragor o fanylion.

Am ragor o wybodaeth ynghylch NERS, cysylltwch â Paul.Jones@ceredigion.gov.uk. Prosiect newydd yw Prosiect Cerdded er Lles Gorllewin Cymru a sefydlwyd er mwyn sefydlu grwpiau cerdded o ganolfannau cymunedol; am ragor o fanylion ewch i https://westwaleswalkingforwellbeing.org.uk/cy/

 

16/07/2020