Bydd y gatiau talu a osodwyd yn y cyfleusterau cyhoeddus yn Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan a Stryd Ioan, Ceinewydd bellach yn weithredol ar 1 Mai 2018 yn dilyn penderfyniad y Cabinet a wnaed ar 13 Chwefror 2018.

Mae'r gosodiadau hyn wedi cael eu gweithredu yn dilyn gosodiad prawf llwyddiannus Gatiau Talu yn Nhoiledau Coedlan y Parc, Aberystwyth.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Technegol, “Mewn cyfnod pan fod cyllidebau Cyngor wedi bod o dan bwysau parhaus, mae’n rhaid ystyried ffyrdd eraill o dalu am wasanaethau cyhoeddus. Bydd gosod y gatiau talu yn cynhyrchu incwm i dalu am gostau rhedeg y toiledau cyhoeddus yn Llambed a Ceinewydd.”

Bydd ffi o 20c yn cael ei godi ar gyfer mynediad a bydd cynllun allwedd RADAR yn weithredol. Mae’r cynllun allwedd RADAR yn galluogi pobl sydd ag anabledd neu broblemau iechyd i allu defnyddio cyfleusterau cyhoeddus sydd dan glo ledled y wlad.

Bydd y gatiau talu yn darparu model effeithiol i gynhyrchu incwm i'r Cyngor er mwyn darparu gwaith cynnal a chadw'r cyfleusterau cyhoeddus yn y sir yn y dyfodol.

30/04/2018