Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gosod cynlluniau yn eu lle i ailgychwyn ymweliadau dan do ym mhob un o gartrefi gofal yr Awdurdod Lleol yng Ngheredigion yn unol â chyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ar 20fed Awst. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau y gallwn gynllunio ar gyfer yr ymweliadau hyn a threfnu bod y mesurau diogelwch priodol yn cael eu rhoi ar waith, ni fyddwn yn caniatáu rhain am y tro.

Rydym wedi cysylltu â’r holl deuluoedd i’w cynghori ynghylch y datblygiadau presennol, ac mae’n falch gennym nodi fod yr adborth ynghylch yr ymweliadau yn yr awyr agored wedi bod yn gadarnhaol iawn ac wedi rhoi y cyfle i deuluoedd weld eu hanwyliaid wyneb yn wyneb unwaith eto.

Ein prif amcan yw sicrhau bod popeth yn ei le fel y gallwn gynnal ymweliadau dan do mewn ffordd sy’n ddiogel i’r preswylwyr a’r staff.  Fe fydd teuluoedd yn cael eu hysbysu unwaith y bydd trefniadau yn eu lle, fodd bynnag gyda’r tywydd yn newid rydym yn annog ffrindiau a theuluoedd i barhau i ymweld a’u hanwyliaid drwy gyfrwng y dechnoleg fideogynadledda sydd ar gael.

28/08/2020