Bydd gorsaf newydd yn cael ei datblygu ar y llinell reilffordd rhwng gorsaf Aberystwyth a gorsaf Borth. Bydd yn cynnwys maes parcio, cyfnewidfa bysiau a lle storio beics, ac mae disgwyl iddi agor i deithwyr tua diwedd gaeaf 2020.

Bydd yr orsaf newydd, a gaiff ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth, yn cael ei darparu gennym ni, Trafnidiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a Network Rail.

Beth sydd wedi digwydd hyd yma?

Rydym wedi bod ar y safle ers mis Hydref 2019 a dechreuodd y gwaith o adeiladu Gorsaf newydd Bow Street ym mis Tachwedd 2019. Yn ddiweddar, fe wnaethom gwblhau rhan fawr o’r gwaith – gosod y platfform – a byddwn yn symud ymlaen at gamau nesaf y gwaith adeiladu dros yr wythnosau nesaf.

Beth yw cam nesaf y gwaith?

Dwy agwedd allweddol ar y prosiect fydd datblygu’r maes parcio, fydd yn cynnwys symud y tir yn y cae wrth ymyl safle’r orsaf newydd, wedyn creu’r ffordd fynediad newydd i’r orsaf a fydd yn cael ei hadeiladu oddi ar yr A487.

Yn ogystal â hyn, byddwn yn addasu’r gyffordd bresennol rhwng yr A487 a’r A4159, er mwyn cyd-fynd yn well â'r orsaf newydd. O ganlyniad, bydd mesurau rheoli traffig ar waith o ddiwedd mis Mawrth tan ddiwedd yr haf, yn ystod oriau dydd.

Alun Griffiths Contractors Ltd yw ein prif gontractwyr ar y safle.

Sut bydd hyn yn effeithio arnom ni?

Byddwn yn ceisio sicrhau bod y gwaith ffordd hanfodol yn cael cyn lleied o effaith â phosib ar bobl yn ystod y cyfnod hwn, ond dylech ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer teithio yn y car ar hyd y briffordd. Bydd y gwaith yn dechrau fis Mawrth ac yn parhau yn ystod misoedd yr haf. Hoffem ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra a achosir gan y gwaith, a diolch i chi am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch hefo fi drwy yr ebost canlynol bowstreet@trc.cymru

04/03/2020