Gofynnir barn ar Gynllun arfaethedig i Wella Hawliau Tramwy Ceredigion.

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd i asesu i ba raddau y mae’r hawliau tramwy lleol yn cyflawni anghenion y cyhoedd yn awr a’u hanghenion tebygol at y dyfodol; y cyfleoedd y mae’r hawliau tramwy’n eu cynnig i ymarfer corff a hamddena yn yr awyr agored.

Rhwydwaith y llwybrau cyhoeddus yng Ngheredigion – tua 2500 o gilometrau o hyd– yw un o'r prif ffyrdd y gall pobl gael mynediad at gefn gwlad a'i fwynhau.

Dywedodd Eifion Jones, Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus, “Nid yn unig yw’r Hawliau Tramwy yn chwarae rhan annatod o’r atyniad Ceredigion i dwristiaid ond hefyd maent â rôl allweddol yn yr iechyd a lles pawb; twristiaid a’r trigolion fel ei gilydd. Mae’r rhwydwaith hawliau tramwy yn cyfrannu tuag at y seilwaith teithio’n lleol, gan ddarparu llwybrau rhwng cartrefi pobl a chyfleusterau lleol neu leoliadau gwaith. Bydd yr ymgynghoriad ar y cynllun arfaethedig yn rhedeg am 12 wythnos, gan ganiatáu amser i drigolion y cyfle i ddweud eu dweud ac rydym yn edrych ymlaen at glywyd eu barn.”

I weld y Cynllun arfaethedig i Wella Hawliau Tramwy Ceredigion Byddai’r Cyngor, ewch i’r dudalen Ymgynghoriadau ar wefan y Cyngor, www.ceredigion.gov.uk. Dylech anfon eich sylwadau’n ysgrifenedig at Eifion Jones, Adran Economi ac Adfywio Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA neu ar e-bost at Eifion.Jones@ceredigion.gov.uk erbyn 01 Tachwedd 2018. Am ragor o fanylion neu i gael y wybodaeth mewn fformat gwahanol, medrir cysylltu â’r Cyngor ar 01545 570881.

26/07/2018