Mae ymgynghoriadau ar ddyfodol darpariaeth addysg mewn tair ysgol gynradd yng Ngheredigion bellach ar agor i roi barn.

Yn unol â Pholisi Adolygu Ysgolion Cyngor Sir Ceredigion, ac oherwydd gostyngiad mewn niferoedd, ddiffyg cyllideb ac adolygiad o ddarpariaeth ysgolion yn yr ardal, penderfynodd y Cabinet yn ei gyfarfod ar 10 Gorffennaf 2018 i roi'r gorau i gynnal darpariaeth addysg yn Ysgol Gynradd Cilcennin yng nghanol y sir, a hefyd yn Ysgol Gynradd Beulah a Threwen yn ne'r sir. Mae'r penderfyniadau hyn yn cychwyn y broses ymgynghori sydd bellach ar agor tan 7 Tachwedd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles, “Er bod Llywodraeth Cymru yn gosod y fframwaith polisi a deddfwriaethol cyffredinol ar gyfer trefniadaeth ysgolion, mae gan Gynghorau gyfrifoldeb dros gynllunio a rheoli lleoedd ysgol a rhaid sicrhau darpariaeth effeithlon er mwyn canolbwyntio adnoddau ar wella deilliannau addysg i bobl ifanc.”

Mae ystyriaeth lawn wedi'i chynnwys yn yr ymgynghoriadau hyn i gydymffurfio â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru Diwygiedig a ddaw i rym ar 1 Tachwedd.

Parhaodd y Cynghorydd Catrin Miles, “Mae'n hanfodol ein bod ni’n ymgynghori'n llawn ar y cynigion i roi'r gorau i ddarpariaeth addysg yn Ysgol Gynradd Beulah a Threwen ac Ysgol Gynradd Cilcennin. Ystyriwyd y ffactorau addysg berthnasol yn yr ardal gan y Panel Adolygu Ysgolion a'r Cabinet yn ofalus, i sicrhau cynaliadwyedd y ddarpariaeth addysgol yng Ngheredigion ar gyfer y dyfodol. Dyma’r cyfle i'r cymunedau lleol wneud sylwadau ar y cynigion.”

Gwneir trefniadau i ymgynghori â disgyblion, gan gynnwys unrhyw ysgolion yr effeithir arnynt. Cyflwynir y wybodaeth a ddarperir yn y fath fodd sy'n berthnasol i'w hoedran a'u lefel o ddealltwriaeth, a fydd yn caniatáu iddynt ddod i farn wybodus.

Gellir gweld y papurau ymgynghori ar www.ceredigion.gov.uk/ymgynghoriadau Gellir mynegi barn neu ofyn cwestiynau pellach, naill ai trwy lenwi'r ffurflen ymateb ar ddiwedd y ddogfen neu yn ysgrifenedig i: adolygu.ysgolion@ceredigion.gov.uk neu Cyngor Sir Ceredigion, Gwasanaethau Ysgol, 2il Lawr, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE. Gall ymatebwyr ffonio 01545 570881 am gopi papur. Mae'r sylwadau i'w derbyn erbyn 7 Tachwedd 2018.

Cyflwynir Adroddiad Ymgynghori i'r Cabinet am benderfyniad ar y cynigion ar 18 Rhagfyr. Pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i roi'r gorau i'r ddarpariaeth yn y tair ysgol, byddai Hysbysiad Statudol yn agored i wrthwynebiadau ym mis Ionawr. Mae penderfyniadau'r Cabinet yn cyfrannu at wireddu blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor o fuddsoddi yn y dyfodol. Bydd y Cyngor Llawn yn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach ar y materion hyn ar ôl y broses ymgynghori.

26/09/2018