Fe weithiodd staff y Cyngor oriau hir yn dilyn amhariad yn ystod glawiad trwm ar ddydd Sul, 21 Ionawr 2018. Caewyd tair heol a medrwyd yrru ar rai ffyrdd ond â gofal mawr.

Dywedodd Rhodri Llwyd, Rheolwr Grŵp Gwasanaethau Priffyrdd, “Roedd dydd Sul yn ddiwrnod prysur iawn i ni wrth ddelio â ceisiadau yn enwedig rhwng 3yp a 6yp. Roedd pum criw allan yng ngogledd y sir a tri criw yn y de ble roeddent yn clirio ffyrdd, sicrhau diogelwch i bobl a oedd yn teithio yn ogystal â dosbarthu bagiau tywod yn wirfoddol. Hefyd, galwyd staff ychwanegol i fewn i ddelio gyda’r nifer fawr o alwadau a dderbyniwyd o fewn ychydig o oriau.”

Mae dosbarthu bagiau tywod yn wasanaeth gwirfoddol a ni all y Cyngor warantu dosbarthu bagiau tywod i bob lle a all fod eu hangen. Yn ystod amseroedd o risg llifogydd uchel, mae’r Cyngor yn ceisio dosbarthu bagiau tywod i eiddo sydd mewn risg buan pan y ceir ceisiadau.

Parhaodd Rhodri Llwyd, “Mae’n dasg anodd i weithio mewn amgylchiadau tebyg. Un o’r materion mwyaf pwysig i ni oedd i sicrhau diogelwch pobl yn teithio ar ffyrdd Ceredigion, yn ogystal â staff yn gweithio i leddfu materion. Roedd hwn yn golygu cau’r A4159 rhwng Gelli Angharad a Bow Street am gyfnod, y B4337 yn Nhalsarn a’r A44 rhwng Gelli Angharad ac Aberystwyth.”

Ymatebodd staff y Cyngor yn brydlon ar ôl derbyn y rhybudd tywydd cyntaf am 11yb, ac fe ymatebwyd i alwadau o drigolion drwy’r prynhawn a oedd ar eu hanterth am 2yp. Mae gan y Cyngor gynlluniau sirol a rhanbarthol sy’n cael eu gweithredu – trwy weithio gyda sefydliadau partneriaeth – pan fo digwyddiad yn codi. Roedd Trefniant Ymateb i Ddigwyddiad eisoes wedi ei sefydlu pan dderbyniwyd y rhybudd gorlifo wrth Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’r aelod Cabinet sydd yn gyfrifol am Wasanaethau Technegol, y Cynghorydd Ray Quant MBE, “Mae’n gyfnod anodd i bawb pan mae’n bwrw glaw mor drwm ag yr oedd hi ar ddydd Sul ac roedd hi’n dasg galed i’r isadeiledd ymdopi. Fe wnaeth tywydd dydd Sul herio adnoddau’r Cyngor, ond rydym yn diolch i’r staff am weithio’n ddi-flino i sicrhau diogelwch trigolion Ceredigion.”

Anogir trigolion a busnesau sydd yn gwybod eu bod mewn ardal sydd â risg o orlifo i gymryd camau i warchod eu heiddo er mwyn paratoi ar gyfer gorlifo. Yn dilyn hyn, gellir cyfeirio adnoddau er mwyn diogelu pobl bregus yn ystod digwyddiadau o orlifo difrifol, fel esbonia’r Cynghorydd Quant, “Yn ystod y digwyddiad, gwelwyd fod nifer wedi paratoi ar gyfer gorlifo, yn enwedig pobl sy’n byw mewn ardaloedd isel sydd â risg o orlifo. Awgrymir bod y bobl nad oedd wedi paratoi y tro yma, ac sy’n meddwl efallai y ceir eu heffeithio yn y dyfodol, i weithredu nawr, i fod yn barod ar gyfer tywydd tebyg yn y dyfodol. Gellir paratoi bagiau tywod a llifddorau o flaen llaw a’u defnyddio yn gyflym os oes risg o orlifo.”

Deliwyd â mwyafrif o geisiadau am gymorth ddoe, ond mae’r Cyngor yn ymweld â rhai lleoliadau heddiw, 22 Ionawr, er mwyn ymdrin ag erydiad i gefnogaeth priffyrdd a rwbel ar y ffordd.

22/01/2018