Bydd giatiau sy’n codi tâl yn cael eu gosod yn nhoiledau cyhoeddus yn Llambed a Cheinewydd yn dilyn penderfyniad Cabinet 13 Chwefror 2018.

Bydd y giatiau talu yn cael eu gosod yn nhoiledau cyhoeddus yn Stryd y Farchnad, Llambed a Stryd Ioan, Ceinewydd. Gwnaethpwyd y penderfyniad yn dilyn gosodiad llwyddiannus o giatiau talu yn nhoiledau cyhoeddus Coedlan y Parc yn Aberystwyth, sydd wedi cynhyrchu incwm yn effeithiol er mwyn talu costau rhedeg y cyfleuster.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Technegol, y Cynghorydd Ray Quant MBE, “Mae’r penderfyniad yma yn hollol angenrheidiol i sicrhau bod toiledau cyhoeddus ar gael yn ein trefi ar gyfer trigolion ac ymwelwyr. Mewn cyfnod ble bod cyllidebau Cyngor wedi eu torri o £34m yn y pum mlynedd diwethaf a gyda’r angen i arbed £5m yn y flwyddyn nesaf, mae rhaid i’r Cyngor edrych ar ffyrdd gwahanol a chynaliadwy o ariannu toiledau cyhoeddus o safon.”

Bydd ffi o 20c yn cael ei godi i ddefnyddio’r toiledau cyhoeddus. Bydd yr holl incwm a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio i dalu am osodiad y giatiau talu a chynnal a chadw toiledau cyhoeddus yn y sir.

14/02/2018