Diolch i bawb am aros adref. Rydym yn gwybod bod hyn yn anodd, ond mae eich gweithredoedd wir yn gwneud gwahaniaeth.

Drwy barhau i aros adref, gyda’n gilydd byddwn yn lleihau nifer y bobl yng Ngheredigion sy’n cael eu heintio ac sy’n marw o’r Coronafeirws.

Mae angen i ni weithredu o hyd er mwyn achub mwy o fywydau ac atal y feirws rhag lledaenu yng Ngheredigion. Gallwch ledaenu’r feirws hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau.

Dyma’r UNIG resymau y dylech chi adael eich cartref:
• siopa am eitemau hanfodol neu gasglu meddyginiaeth i chi eich hun neu rywun sy’n cysgodi
• teithio i’r gwaith pan nad ydych yn gallu gweithio o adref
• gwneud ymarfer corff unwaith y dydd yn agos at eich cartref.

Diolch i chi drigolion Ceredigion am wneud gwaith gwych – daliwch ati!

Arhoswch adref, diogelwch y GIG, achubwch fywydau.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich.

www.ceredigion.gov.uk/coronafeirws

17/04/2020