Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn chwilio am sefydliadau gyda syniadau da a'r gallu i weithredu'r syniadau hynny gyda rhywfaint o gymorth mewn unrhyw un o chwe tref yng Nghanolbarth Cymru.

Mae'r Bartneriaeth wedi dewis trefi Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, Tregaron, Llandrindod, Aberhonddu a'r Drenewydd i fod yn barthau adfywio a allai elwa o gyllid Buddsoddi Adfywio Targedol gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn ennill yr arian, mae angen i'r Bartneriaeth adnabod y prosiectau adfywio posib gorau gan sefydliadau sector preifat, gwirfoddol neu gyhoeddus y gellir eu rhoi ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Cadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Fel rhan o'r Cynllun Adfywio hirdymor, mae'r Rhaglen Buddsoddi hon yn gyfle hanfodol i ardal Tyfu Canolbarth Cymru i ffynnu. Ein gobaith yw y bydd cynigion o brosiectau adfywio cryf a blaengar yn cael eu cyflwyno gan amrywiaeth o sefydliadau i sicrhau bod y cyllid hwn yn cael ei ddyfarnu i Ganolbarth Cymru.”

Mae'r cloc nawr yn tician am syniadau i'w cyflwyno, ar ôl i Galwad Hapfasnachol am syniadau gael ei gyhoeddi ar Gwerthwch i Gymru ar 9 Mawrth. Mae angen anfon cynigion amlinellol i'r Bartneriaeth erbyn 13 Ebrill 2018 i sefyll cyfle i gael eu hystyried i'w datblygu a'u cyflwyno wedyn i Lywodraeth Cymru fel ceisiadau am gyllid.

Wrth dynnu sylw at y fenter, dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddatblygu Economaidd ac Adfywio, y Cynghorydd Gareth Lloyd: “Mae hwn yn gyfle gwych i'r rhanbarth roi hwb i economi rhai o'n trefi marchnad sydd wedi cael amser anodd iawn yn y blynyddoedd diwethaf a dod â rhywfaint o fywiogrwydd yn ôl i'w calon. Rydym am weld ffyniant yn cael ei ledaenu ar draws y rhanbarth, ond mae angen i ni weithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau hynny gyda'r syniadau, cyfleoedd a sgiliau gorau i wneud gwahaniaeth go iawn. Credaf hefyd y bydd cael statws 'parth adfywio' yn helpu'r chwe thref hyn i ddenu buddion buddsoddi eraill dros y blynyddoedd i ddod.”

Gellir cael gwybodaeth lawn o wefan Gwerthwch i Gymru https://www.sell2wales.gov.wales/search/show/search_view.aspx?ID=MAR242390 neu drwy e-bostio ysgrifenyddiaeth y Bartneriaeth Mike Shaw ar Mike.shaw@ceredigion.gov.uk.

09/03/2018