Yn dilyn arolwg diweddar Estyn, mae Ysgol Gynradd Aberaeron wedi ei chanmol am y profiadau dysgu cyfoethog ag ysgogol mae yn ei chynnig.

Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd sylweddol ers ymweliad diwethaf Estyn o ganlyniad i ‘athrawon a chymorthyddion gweithgar,’ ‘tîm rheoli cadarn,’ ‘llywodraethwyr ymroddgar’ a ‘phennaeth dylanwadol sydd wedi sefydlu gweledigaeth glir ar gyfer yr ysgol.’

Nodwyd gan yr arolygwyr bod yr ysgol yn cynnig profiadau dysgu arloesol i’r disgyblion. Dangosodd yr ysgol ei bod yn cynllunio yn effeithiol ar gyfer dyfodiad y cwricwlwm newydd. O ganlyniad, gwahoddwyd hwy i baratoi astudiaeth achos ar sut y maent yn cynllunio themâu ysgogol a mabwysiadu sbardunau a digwyddiadau’n gyfoethog ar brofiadau a dysgu’r disgyblion. Bydd yn cael ei rannu ar wefan Estyn.

Mae’r adroddiad yn datgan bod yr athrawon yn ‘hybu diwylliant Cymru a’r ardal leol yn fwriadus iawn.’ Mae’r ysgol yn rhan annatod o’i chymuned ac o ganlyniad mae’r cyfleoedd gwerthfawr yma yn ‘datblygu medrau creadigol a mynegiannol y disgyblion yn fwriadus a gwella’u hunanhyder a’u cymhelliant.’

Rhoddwyd canmoliaeth yn ogystal i drefniadau gofal a lles ‘hynod effeithiol’ yr ysgol. ‘Mae’r ysgol yn gymuned gynhwysol, hapus a chartrefol, lle rhoddir pwyslais cadarn ar ddarparu cymorth pwrpasol i bob unigolyn.’

Catrin Thomas yw Pennaeth yr ysgol ac yn hapus iawn gyda’r adroddiad. Dywedodd hi, “Mae’n galonogol i ni fel ysgol dderbyn cydnabyddiaeth am y gwaith tîm effeithiol sy’n bodoli rhwng y disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned. Mae lles ein disgyblion yn ogystal â’r profiadau dysgu maent yn eu derbyn gyda ni yn greiddiol i’n gweledigaeth. Mi fyddwn yn dal ati i gydweithio’n ddiwyd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ysgol hapus, ofalgar ac uchelgeisiol yn ystod y cyfnod cyffrous yma yn hanes addysg Cymru."

Lleolir yr ysgol gynradd gymunedol ar safle deheuol i dref Aberaeron, tua 200 metr o’r traeth, ac mae’n mwynhau golygfeydd o Fae Ceredigion.

Caiff Estyn ei arwain gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae’n arolygu ansawdd a safonau ysgolion ledled Cymru.

14/06/2019