Mae Hyfforddiant Ceredigion yn parhau i gyrraedd y brig mewn cystadlaethau sgiliau ledled y Deyrnas Unedig. Y stori lwyddiant ddiweddaraf yw hanes Bayley Harris, a enillodd gymhwyster Lefel 2 trin gwallt yn Hyfforddiant Ceredigion yn ddiweddar.

Wedi iddi lwyddo mewn rowndiau rhanbarthol a chenedlaethol heriol, enillodd Bayley le yn rownd derfynol fawreddog cystadleuaeth WorldSkills UK a gynhaliwyd rhwng 21 a 23 Tachwedd 2019 yn yr NEC yn Birmingham.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth dros dri diwrnod llawn, a bu’n rhaid i Bayley gystadlu mewn pum categori gwahanol, gan gynnwys addurno gwallt hir, torri, lliwio, trin gwallt priodferch a barbro. Mewn cystadleuaeth a oedd yn cynnwys deg triniwr gwallt o’r safon uchaf, cyrhaeddodd Bayley y trydydd safle, ac o ganlyniad dyfarnwyd iddi’r fedal efydd yn y seremoni wobrwyo.

Yn sgil ei pherfformiad rhagorol, mae Bayley wedi ei dewis i Sgwad y DU ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol WorldSkills, cystadleuaeth o fri a gynhelir yn Shanghai, Tsieina yn 2021.

Estynnodd tiwtor trin gwallt Hyfforddiant Ceredigion, Carys Randell, ei llongyfarchiadau i Bayley am wneud mor dda yn y cystadlaethau, a hynny er eu bod yn gystadlaethau mor ddwys ac o safon tu hwnt o uchel. Ychwanegodd, “Rwy’n eithriadol o falch o Bayley am ennill y drydedd wobr yn y DU, ac edrychaf ymlaen at ei chefnogi ar ei siwrnai nesaf gyda Sgwad y DU.”

Bydd cystadleuaeth WorldSkills yn Shanghai yn cynnwys dros 1000 o brentisiaid a myfyrwyr mwyaf talentog y byd a fydd yn cystadlu mewn dros 50 o sgiliau gwahanol wrth iddynt frwydro i ennill teitl Pencampwr y Byd yn eu galwedigaeth briodol.

Catrin Miles yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes. Meddai, “Mae’n hyfryd dilyn taith lwyddiannus Bayley yn y diwydiant trin gwallt. Mae’r wobr ddiweddaraf yma yn glod iddi. Mae Bayley yn dangos ble gallwch gyrraedd os ydych yn rhoi eich meddwl ar waith gyda chefnogaeth Hyfforddiant Ceredigion. Pob hwyl yn Sgwad y DU.”

Hoffai holl staff a dysgwyr Hyfforddiant Ceredigion longyfarch Bayley ar ei llwyddiant diweddaraf wrth gystadlu a dymunant y gorau iddi wrth iddi gynrychioli’r DU yn Tsieina yn 2021.

Mae Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ar gyfer pobl o bob oed, gan gynnwys Trin Gwallt, Gofal Plant, Gweinyddu Busnes, Technoleg Gwybodaeth Gwaith Coed, Plymio, Gwaith Trydan, Gwaith Gof, Mecaneg Moduron a Weldio. Am fwy o wybodaeth, dewch o hyd i HCT ar Facebook https://www.facebook.com/HyfforddiantCeredigion, neu ewch ar y wefan: http://www.ceredigiontraining.co.uk/hafan

04/02/2020