Am noson o chwerthin afreolus, Theatr Felinfach yw’r lle i fod ar Nos Sadwrn, 26 Hydref am 8 yh gan fod Elis James nôl gyda sioe iaith Gymraeg newydd sbon.
Yn dilyn llwyddiant ei sioeau Cymraeg stand-yp yn 2015 a 2017, mae Elis wrthi ar hyn o bryd yn teithio ar draws y DU gyda'i sioe Gymraeg newydd sbon.
Dewch i wrando ar ei jôcs newydd cyn iddynt gael eu darlledu ar S4C. Mwynhewch y rhai sy’n gweithio ac anwybyddwch y rhai sydd ddim cystal. Byddwch yn rhan o’r broses - gwaith mewn llaw!
Bydd Elis yn cymryd cipolwg ar dadolaeth, trolls ar y we a'r euogrwydd sy’n codi wrth beidio defnyddio'r opsiwn Cymraeg ar beiriannau twll yn y wal!
Tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ar-lein – theatrfelinfach.cymru.
Tocynnau’n £12 i oedolion, £11 i bensiynwyr ac aelodau a £10 i fyfyrwyr a disgyblion dros 16.
Canllaw Oedran: 16+
11/10/2019