Gyda mwy o bobl nag erioed yn ymweld â’r parth arfordirol yma yng Nghymru, mae aflonyddu ar fywyd gwyllt ar gynnydd.

Yn ddiweddar, cawsom newyddion trist fod morlo bach wedi marw ar ôl i’w fam beidio â dychwelyd i’w fwydo yn dilyn achos o aflonyddu a dychryn gan bobl oedd eisiau tynnu lluniau a ‘selfies’ gyda’r morlo bach.

Yn ystod y tymor magu (rhwng Awst a Rhagfyr) mae’n bosib dewch ar draws morloi bach gwyn ar draethau neu ar greigiau ar arfordir Cymru - yn aml ar ben eu hunain. Serch hynny maen debygol bydd y fam ger llaw, felly mae’n hanfodol cadw draw er mwyn iddi allu ddychwelyd i fwydo’i morlo bach.

Dywedodd Melanie Heath, Swyddog yr ACA ar gyfer Bae Ceredigion: “Rhaid cofio bod morloi bach angen digonedd o ofod personol ag amser er mwyn gorffwys a thyfu. Dim ond am dair wythnos yn unig caiff y morloi bach eu bwydo gan eu mamau cyn nes bydd yn rhaid iddynt ofalu am eu hunain. Mae’n hanfodol felly yn ystod yr amser yma eu bod yn cael digonedd o le heb ymyrraeth. Gall aflonyddu ar forloi arwain at eu marwolaeth.”

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Economi ac Adfywio. Dywedodd: “Mae’n bwysig iawn cofio bod y creaduriaid eiconig hyfryd yma yn anifeiliaid gwyllt felly cadwch draw a mwynhewch o bell.”

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Melanie Heath ar Melanie.Heath2@ceredigion.gov.uk

20/09/2021