Darparwyd cymorth i ddyn o Aberystwyth a gafodd ei ddiswyddo i ennill sgiliau newydd a mentro yn ôl i fyd gwaith.

Roedd Arwyn Jones, 56 oed o Aberystwyth wedi bod yn yr un swydd ers blynyddoedd ac fe gafodd ei ddiswyddo. Yn ystod cyfnod anodd y pandemig, roedd yn ddi-waith ac yn byw oddi ar ei gynilion.

Gyda chymorth Gweithffyrdd+ a sefydliadau cymorth eraill, cafodd fynediad at hyfforddiant i wella ei sgiliau TG a’i waith cyfrifiadurol a chafodd ei roi mewn cysylltiad â Mentor a’i helpodd i lenwi ffurflenni cais, cysylltu â chyflogwyr a chael cyngor ar gyfer cyfweliadau.

Yna, llwyddodd i sicrhau swydd llawn amser gyda Guardwatch yn Aberaeron lle mae’n rhan o dîm o bobl sy’n rheoli’r cyfleuster profi Covid drwy ffenest y car.

Dywedodd Arwyn Jones: “Rwy’n hapus fy mod wedi sicrhau gwaith ac rwy’n mwynhau cwrdd â phobl newydd. Gallaf nawr dalu fy miliau a chefnogi fy hun heb orfod dibynnu ar fy nghynilion. Hoffwn ddiolch i Gweithffyrdd+ am eu holl help ar hyd y ffordd.”

Y Cynghorydd Catrin Miles yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Mae’n wych clywed am brofiad cadarnhaol Arwyn wrth sicrhau gwaith newydd ar ôl ennill sgiliau newydd gyda chymorth y rhaglen hon. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n chwilio am gyfleoedd hyfforddiant neu waith i gysylltu â’r tîm – dydych chi byth yn gwybod pa ddrysau a allai agor i chi.”

Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac fe'i darperir gan Gyngor Sir Ceredigion. 

Mae mentoriaid yn darparu cymorth 1:1 i gyfranogwyr gan eu helpu i ysgrifennu CV, cynnal ffug gyfweliadau, gwella eu sgiliau ac ariannu amrywiaeth eang o hyfforddiant gan gynnwys cymorth i ddechrau eu busnes eu hunain.

Os ydych chi'n credu y gallai'r prosiect eich helpu chi, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm ar 01545 574193 neu anfonwch e-bost at TCC-EST@ceredigion.gov.uk.

04/02/2022