Mae'r murluniau caredigrwydd a gynlluniwyd gan grŵp o ddisgyblion Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Llanfarian wedi'u cwblhau ar safleoedd yr ysgol.

Yn ystod wythnos Genedlaethol Gwrth-fwlio ym mis Tachwedd 2021, gofynnwyd ar bobl ifanc i ddylunio murlun ar gyfer cystadleuaeth yn seiliedig ar y thema caredigrwydd. Cymerodd deg ysgol ran ond daeth y dyluniadau buddugol o Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Llanfarian.

Datblygwyd y syniad hwn o ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd Bwrdd Partneriaeth ranbarthol Gofal Gorllewin Cymru (PGGC), gyda'r nod o greu mwy o ddealltwriaeth am fudd ac effaith caredigrwydd i ni a phobl eraill. Mewn ysgolion, mae'r ymgyrch yn pwysleisio sut mae caredigrwydd yn yr ystafell ddosbarth yn annog positifrwydd fydd yn aros gyda’r plant trwy gydol eu bywydau.

Comisiynwyd Dean o ‘Marvellous Murals’ i ddod â'u cynlluniau’n fyw ar safleoedd yr ysgol yn gynharach eleni. Dywedodd: "Roedd hwn yn brosiect hyfryd i weithio arno. Fe wnes i fwynhau gweithio pan oedd y disgyblion yn bresennol fel y gallent weld y broses yr euthum drwyddi. Mae cymaint yn cael ei greu gan gyfrifiaduron neu beiriannau sydd, yn fy marn i, yn aml yn ein synnu pan welwn rywbeth yn cael ei greu â llaw.

Crëwyd pob murlun dros sawl diwrnod ac roedd y plant yn rhyfeddu at wylio'r paentiad yn dod i'r amlwg ac yn esblygu. Roedd y ddwy ysgol yn bleser gweithio gyda nhw ac roedd yn wych ennyn diddordeb cymaint o blant mewn celf mewn ffordd bositif."

Laurie Hughes, Athrawes Ymgynghorol Lles Ceredigion: "Mae'r murluniau hyn yn anhygoel! Mae gweld eu dyluniadau yn dod yn fyw wedi ysbrydoli'r bobl ifanc ym Mro Teifi a Llanfarian a bydd yn atgof gwych i bawb yn yr ysgolion o bwysigrwydd bod yn garedig."

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/newyddion/murlun-caredigrwydd-gan-blant-a-phobl-ifanc-ceredigion/

30/03/2022