Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar sut mae Ceredigion yn dod yn Sir sy’n fwy egnïol yn gorfforol.

Mae yna gynllun i ddilyn y “Strategaeth Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden 2014-2020” sy’n cael ei ddatblygu, gyda chyfle i drigolion Ceredigion ddweud eu dweud.
Bydd eich adborth yn hanfodol i gefnogi Cyngor Sir Ceredigion i greu cynllun datblygu newydd er mwyn pennu ei flaenoriaethau rhwng 2022 a 2027. Bydd hyn yn caniatáu i drigolion Ceredigion gael mynediad at gyfleoedd o safon i ddod yn fwy actif a fydd hefyd o fudd i'w hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol.

Bydd y cynllun newydd yn nodi sut y gall fod yn sir fwy egnïol gyfrannu at Strategaethau Corfforaethol y Cyngor a'r Cynllun Lles Lleol.

I sicrhau bod y cynllun yn diwallu anghenion ei holl breswylwyr, hoffai'r Cyngor i gynifer o bobl a sefydliadau â phosibl gwblhau'r arolwg. Mae gan drigolion hyd at 17 Hydref i gwblhau’r arolwg: https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/cynllun-datblygu-gweithgaredd-corfforol/.

Y Cynghorydd Catherine Hughes yw’r Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Gofal, Ymyrraeth Gynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant. Dywedodd: “Mae iechyd a lles corfforol a meddyliol trigolion Ceredigion yn bwysig iawn. Dyma gyfle i'r trigolion ddweud eu dweud ar sut maen nhw eisiau derbyn chwaraeon a gweithgareddau corfforol am y blynyddoedd i ddod. Rydym yn cydnabod yr effaith y mae pandemig y coronafeirws wedi'i chael ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y sir ac mae hwn yn gyfle i roi gwybod i ni sut y gallwn ailadeiladu’n gryfach.”

Am fwy o wybodaeth neu os hoffech gael yr arolwg mewn fformat arall, cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

18/08/2021