Rydym yn gweithio fel Swyddogion Trosolwg a Chraffu ac yn rhan o dîm Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor.

Rôl Trosolwg a Chraffu yw edrych ar y gwasanaethau a’r materion sy’n effeithio ar bobl Ceredigion.

Mae’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn goruchwylio gwaith y Cyngor, gan wneud yn siŵr ei fod yn darparu gwasanaethau yn y ffordd orau bosibl ac er budd y gymuned leol.

Gall aelodau’r pwyllgorau yma archwilio swyddogaethau amrywiol y cyngor, gofyn cwestiynau sut y gwnaethpwyd penderfyniadau, ystyried a ellir mabwysiadu gwelliannau i’r gwasanaethau a chynnig argymhellion i’r perwyl hwn.

Mae Cyfarfodydd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn agored i’r cyhoedd* ac fe’u cynhelir bob chwe wythnos, fel rheol ym Mhenmorfa, Aberaeron.

Mae craffu’n chwarae rhan allweddol yn y broses o hyrwyddo atebolrwydd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd prosesau gwneud penderfyniadau’r Cyngor a’r ffordd y mae’n darparu gwasanaethau.

Lisa: Yn fy rôl, rwy’n cynnig cefnogaeth a chyngor i’r Cadeiryddion, yr Is-gadeiryddion ac aelodau’r Pwyllgor, er mwyn sicrhau bod swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cael ei gweithredu’n effeithiol ac yn effeithlon. Cynghorwyr Sir sy’n cynrychioli amrywiol bleidiau gwleidyddol gwahanol yw aelodau’r pwyllgorau.

Rwyf hefyd yn darparu cefnogaeth ymchwiliol i adolygiadau, gwaith sy’n golygu ymchwil a dadansoddi. Rwyf wrth fy modd gyda’r elfen hon o’m gwaith, gan fod y pynciau’n amrywiol iawn, un diwrnod gallwn fod yn ymchwilio i Ddarpariaeth Dementia ac yna drannoeth efallai y byddaf yn casglu data ar ffermydd sirol – mae’r cyfan yn dibynnu beth sydd ar yr agenda/pa destunau neu faterion sy’n cael eu trafod.

Dwynwen: Rwy’n hwyluso cyfarfodydd a golyga hyn wahodd unigolion a chynrychiolwyr mudiadau i ddod a chyflwyno gwybodaeth benodol mewn pwyllgorau. Rydym wedi cael cynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth, yr Heddlu, y Bwrdd Iechyd, y Frigâd Dân, i enwi ond ychydig. Mae ymgysylltu fel hyn gyda sefydliadau allanol yn bwysig, gan y gall helpu aelodau’r pwyllgor i gael gwybodaeth arbenigol am bwnc penodol. Gall hyn fod o fudd wrth lunio polisi yn y dyfodol neu gall gyfrannu at asesu effaith polisïau’r Cyngor ar gymunedau lleol.

Os yw’r pwyllgor Trosolwg a Chraffu o’r farn bod angen gwella rhywbeth o safbwynt mater penodol, gall wneud argymhellion a gaiff eu cyflwyno i’r Cabinet eu hystyried.

Rwy’n llunio adroddiad y mae Cadeirydd y pwyllgor yn ei gyflwyno i’r Cabinet er ystyriaeth. Yn dilyn hyn, mae Lisa a fi’n monitro’n ofalus unrhyw benderfyniadau sy’n deillio o unrhyw argymhellion a wnaethpwyd. Enghraifft ddiweddar yw Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus yn ystyried safleoedd gwastraff cartref y sir a gofynnwyd iddynt ystyried y ddarpariaeth yn safle gwastraff Rhydeinon yn y dyfodol pan ddaw ei gontract i ben. Yn dilyn mewnbwn y gwaith craffu ac ymgynghoriad cyhoeddus, cytunwyd y byddai'r safle yn gweithredu ar oriau llai o 5 Rhagfyr 2018 a chytunodd Aelodau'r Pwyllgor i fonitro hyn yn y dyfodol. I'r perwyl hwn, bydd adroddiad monitro yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu ar 10 Hydref 2019.

Dwynwen: Rwy’n hwyluso grwpiau Gorchwyl a Gorffen a ffrydiau gwaith sydd wedi eu ffurfio yn dilyn materion a godwyd yng nghyfarfodydd y pwyllgor. Nod y rhain yw cynnal adolygiadau trylwyr. Mae Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad trylwyr o Wasanaeth Ystadau. Mae tri grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi eu sefydlu, sef Trafodion, Rheoli’r Ystadau a Chyfleoedd, Adnoddau, Ffermydd Sirol a Gofynion Newydd.

Lisa: Gall aelodau’r cyhoedd awgrymu materion i’w cyflwyno i’r pwyllgor graffu arnynt.
Os hoffech gyflwyno eich sylwadau ar eitem sydd i ymddangos ar agenda Trosolwg a Chraffu, cyflwynwch gais ysgrifenedig i siarad â’r tîm Craffu cyn gynted â phosibl, ac nid hwyrach na chanol dydd ddau ddiwrnod gwaith cyn cyfarfod nesaf y pwyllgor. Ceir rhestr o’r hyn mae’r pwyllgorau yn mynd i’w ystyried ar y wefan isod.
Gellir gwneud cais ysgrifenedig drwy anfon e-bost at scrutiny@ceredigion.gov.uk neu drwy anfon llythyr at: Trosolwg a Chraffu, y Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA.

Rydym am gael mwy o breswylwyr yn rhan o’r broses Drosolwg a Chraffu, felly, ym mis Hydref byddwn yn lansio nodwedd newydd ar dudalennau Gweplyfr y cyngor. Dri diwrnod gwaith cyn pob pwyllgor Trosolwg a Chraffu, byddwn yn rhoi’r agenda ar y wefan ac yn annog preswylwyr i anfon eu safbwynt ar yr eitemau penodol sydd ar yr agenda. Yna, caiff eich safbwyntiau eu cyflwyno ar eich rhan yn y cyfarfod.**

Dilynwch ni ar @CeredigionCC ar gyfer ein tudalen Saesneg, neu beth am droi at ein tudalen Gymraeg ar @CSCeredigion. Helpwch ni i sicrhau eich bod chi, y trigolion, wrth galon ein polisïau a’n gwasanaethau.
Os hoffech awgrymu testun i ni graffu arno, yna gallwch gysylltu â ni ac fe fyddwn bob amser yn ymateb i’ch sylwadau.

Cysylltwch â’r tîm Gwasanaethau Democrataidd ar 01545 574177 neu ewch i dudalen ‘Trosolwg a Chraffu’ gwefan y Cyngor am fwy o wybodaeth,
https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/cynghorwyr-a-phwyllgorau/trosolwg-a-chraffu/trosolwg-a-chraffu-pwyllgorau/

*Os oes angen i’r pwyllgor drafod gwybodaeth gyfrinachol ynglŷn ag eitem ar yr agenda, yna gofynnir i’r wasg ac aelodau’r cyhoedd adael yr ystafell yn ystod y drafodaeth.

**Cyfeiriwch at Wefan y Cyngor am fwy o wybodaeth ynglŷn â Phrotocol Ymgysylltu â’r Cyhoedd Trosolwg a Chraffu Ceredigion.

04/10/2019