Y peth cyntaf sydd angen ei wneud yn y bore yw troi’r holl offer ymlaen. Y peth nesaf ar fy rhestr yw sicrhau bod gennym ddigon o gacennau ar gyfer y dydd - mae’r holl gacennau'n cael eu gwneud yn y caffi, felly mae gennym wastad ddigon. Mae ein cacennau yn derbyn llawer o ganmoliaeth, felly galwch heibio os nad ydych wedi rhoi cynnig ar un eto.

Nesaf, mae'n amser bwrw golwg ar y coffi mâl – gall newid yn y tymheredd a ffactorau eraill gael effaith ar safon y coffi mâl drwy gydol y dydd, felly mae'n bwysig iawn i’w wirio’n rheolaidd - rydym yn hynod ofalus ac yn ceisio sicrhau ein bod darparu paned berffaith bob tro.

Am 10yb, mae'n amser agor. Rydym yn cynnig brecwast o 10 tan 12. Un o'r dewisiadau poblogaidd ar y fwydlen yw afocado ac wy wedi’i botsio ar dost, ac wrth gwrs, ein cacennau te enfawr. Mae ein prif fwydlen cinio ar gael o 11:30yb tan 3yp. Mae angen archebu te prynhawn 24 o flaen llaw ac mae ar gael rhwng 12yp a 4yp. Mae coffi, te a chacennau ar gael trwy’r dydd.

Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn lletygarwch. Rwy'n berson bywiog a chymdeithasol, ac rwy’n tueddu i yrru ymlaen yn dda â phawb.

Yn wreiddiol o’r Amwythig, dechreuais weini pan oeddwn yn 15 oed. Ers hynny, rwyf wedi cael profiad o weithio mewn bar a darparu gwasanaeth gweini mewn priodasau. Symudais i Aberystwyth rai blynyddoedd yn ôl a dechrau fy musnes argraffu fy hun (mwy am hynny yn nes ymlaen!) Ar yr un pryd, llwyddais i gael rôl y goruchwylydd yma hefyd. Roedd pobl yn dweud wrthyf yn rheolaidd fy mod yn dda yn fy rôl - rhoddodd hyn hwb mawr i'm hyder yn fy ngallu, ac yn y pen draw, rhoddodd hyn yr hwb yr oedd ei angen arnaf i geisio am rôl y rheolwr.

Pan ddaeth y Cyngor yn berchennog ar y caffi tua diwedd 2018, llwyddais i gael rôl y rheolwr. Rwyf wedi mwynhau bod yn rhan o'r fenter newydd gyffrous hon o'r cychwyn cyntaf.

Rwyf wedi derbyn cymorth a chyngor da iawn, sydd wedi fy ngalluogi i ymgyfarwyddo â'r rôl. Gall y rôl fod yn heriol, wrth gwrs, ond mae wedi rhoi cyfle i mi ennill sgiliau newydd, megis rheoli staff, cadw cyfrifon a chynllunio prosiectau.

Rwy'n ymfalchïo yn fy ymdrech i sicrhau bod y caffi’n llwyddiannus, ac mae gwybod bod y cwsmeriaid yn hapus ac yn derbyn y gwasanaeth gorau posib yn fy ysgogi. Mae'n braf gweld cymaint o'n cwsmeriaid yn dychwelyd bob dydd i gael eu ffefrynnau.

Rydw i, yn ogystal â chwpwl o’m staff, yn dysgu Cymraeg. Os yw cwsmer yn dechrau siarad â mi yn Gymraeg, rwy'n gwneud pob ymdrech i gynnal y sgwrs yn eu mamiaith - mae ein cwsmeriaid wir yn gwerthfawrogi'r ymdrech hon a wastad yn fy annog. Mae nifer o ddysgwyr Cymraeg yn ymweld â ni’n rheolaidd - mae ymweld â’r caffi yn gyfle delfrydol i ymarfer Cymraeg llafar, ac mae’n newid braf o’r ystafell ddosbarth.

Nid y Gymraeg yw’r unig iaith yr ydym yn ei chlywed yn y caffi, mae ein cwsmeriaid yn dod o bob cwr o'r byd. Oherwydd bod y Ganolfan Groeso wedi'i lleoli yma, rydym yn cwrdd â llawer o bobl sydd o bosib yn ymweld â Cheredigion am y tro cyntaf. Yn ddiweddar, rwyf wedi sgwrsio gyda thwristiaid o Seland Newydd, yr Almaen a Japan – mae'n braf clywed am eu hanturiaethau a’r rheswm y maent yn ymweld â’r sir. Maen nhw wastad yn dweud pa mor wahanol yw Ceredigion i unrhyw le arall yn y byd – maen nhw'n caru’r ffaith ein bod yn unigryw.

Mae sawl grŵp o’r gymuned leol hefyd yn cyfarfod yn y caffi - mae ein cornel chwarae yn boblogaidd iawn gyda'r plant, ac un neu ddau oedolyn weithiau!

Gallwn ddarparu gwasanaeth ar gyfer tripiau bws a phartïon pen-blwydd ac arlwyo ar gyfer digwyddiadau mwy o faint hefyd - a oeddech chi'n gwybod bod yr Amgueddfa bellach yn lleoliad priodas trwyddedig? Mae cael bod yn rhan o'r sesiynau blasu ar gyfer rhai priodasau sy’n cael eu cynnal eleni wedi bod yn llawer o hwyl.

Gan mai fi yw’r rheolwr, rwyf hefyd yn gyfrifol am elfen farchnata'r caffi, gan gynnwys rheoli ein tudalen Facebook a dylunio taflenni, tocynnau a thalebau. Mae'r ffaith bod gen i eisoes brofiad o ddylunio cynnyrch yn ddefnyddiol; yn fy amser fy hun, rwy'n rhedeg busnes dylunio ac argraffu bach, ‘Self-addiction designs’, lle rwy’n argraffu ar grysau-t, cwpanau a matiau bwrdd. Rwyf hefyd yn gwneud gwaith comisiwn ac wedi creu logos ar gyfer busnesau lleol. Rwy'n hoff iawn o'r ffaith fy mod yn gallu bod yn greadigol yn y gwaith a thu hwnt.

Gyda'r haf yn agosáu, mae’n bleser gen i gyhoeddi y byddwn yn gwneud ein bwydlen yn fwy hygyrch yn ystod mis Gorffennaf drwy gyflwyno 'Pecynnau Traeth' – deunydd pecynnu pydradwy a fydd yn caniatáu i gwsmeriaid brynu unrhyw eitemau o'n bwydlen, gan gynnwys smwddis neu ysgytlaeth, a’u mwynhau y tu allan ar y traeth neu yn y parc, felly gall cwsmeriaid fanteisio ar unrhyw dywydd braf.

Dilynwch y caffi ar Facebook - Tŷ Coffi Coliseum, Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth i gael gwybod am y newyddion a'r cynigion diweddaraf.
http://www.ceredigionmuseum.wales/hafan/

26/07/2019