Rwyf wedi bod yn marchogaeth ceffylau brwd ers yn 7 oed, pan symudodd fy nheulu o Ddyfnaint i Landdewi Brefi, Ceredigion. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi cael digon o brofiadau agos at gael damwain ar ffyrdd gwledig Ceredigion tra mas gyda fy chwiorydd a ffrindiau ar gefn ceffyl neu ar feiciau. Ar bob achlysur, rydw i wedi meddwl y gall mwy gael ei wneud i addysgu a chynghori pobl er mwyn gwneud gwahaniaeth i ddiogelwch defnyddwyr ffordd, yn enwedig defnyddwyr ffordd bregus. Wedi dweud hynny, byddwn i byth wedi dychmygu dechrau gyrfa mewn diogelwch y ffyrdd; roeddwn i’n awyddus i ddilyn gyrfa mewn marchogaeth yn wreiddiol!

Sawl blwyddyn yn ôl, gwelais hysbyseb am Swyddog Diogelwch y Ffyrdd a phenderfynais bod dim byd gen i i golli wrth geisio am y swydd. Nawr fy mod yn gweithio’n y maes yma, dydw i ddim yn gallu meddwl am swydd arall sydd mor amrywiol neu wobrwyol. Rwy’n gweithio gyda thîm o bobl ryfeddol. Heulwen yw Cynorthwyydd Diogelwch y Ffyrdd sy’n darparu cefnogaeth weinyddol yn y swyddfa ac yn ymgynghorydd gwybodus iawn am sedd car plentyn. Rhwng y ddau ohonom ni, ni’n cadw ar ben y gwaith swyddfa a gweinyddol o ddydd i ddydd, ac yn mentro allan i leoliadau ledled y sir i ddarparu negeseuon diogelwch ar y ffyrdd. Mae dwy swyddog Kerbcraft sef Neris, sy’n darparu hyfforddiant i de y sir, a Rose-Ann sy’n darparu hyfforddiant i’r gogledd. Graham ac Owen yw’r ddau hyfforddwr seiclo i’r sir. Mae hefyd wyth Swyddog Hebryngwr Croesfannau Ysgol dibynadwy a ffantastig. Rhyngom ni gyd, ni yw Tîm Diogelwch y Ffyrdd Ceredigion, gyda Chris yn cadw trefn arnom.

Ble gallai ddechrau gyda beth sydd ynghlwm wrth fy rôl fel Swyddog Diogelwch y Ffyrdd? Mae Diogelwch y Ffyrdd yn effeithio pawb; mae cymaint o agweddau i ddiogelwch y ffyrdd i bob oedran fel nad oes unrhyw ddiwrnod yr un fath. Rwy’n ymweld ag ysgolion yn rheolaidd, naill ai i alw mewn i gyflwyno gwasanaeth neu dreulio hanner diwrnod gyda grwpiau o blant yn trafod materion diogelwch y ffyrdd sydd yn cael effaith ar eu bywydau nhw. Hefyd, rwy’n mwynhau annog teithio llesol, a bob tro’n hapus i helpu trefnu bws cerdded gydag ysgol, i geisio annog plant i gerdded, mynd ar sgwter neu seiclo i’w ysgol o leiaf unwaith yr wythnos. Mae swyddogion Hebrwng Croesfannau Ysgol yn asgwrn cefn ein Tîm gan fod allan bob dydd, ym mhob tywydd, i sicrhau bod yr holl ddisgyblion sy’n cerdded i ysgolion y sir yn croesi’n ddiogel i’w cyrchfan.

Mae Heulwen a finnau’n gynghorwyr sedd car cymwysedig, ac yn mynychu canolfannau teulu a grwpiau chwarae yn rheolaidd. Rydym yn trafod materion y mae rhieni’n cael, ac yn cynnig cyngor ar osod y sedd car yn gywir. Rydym yn cynnig y gwasanaeth yma o’n swyddfa ym Mhenmorfa, Aberaeron, felly os ydych chi eisiau sicrhau bod sedd car eich plentyn wedi ei osod yn gywir, rhowch alwad i ni i drefnu amser.

Rydym yn derbyn cyllid wrth Llywodraeth Cymru am rai cynlluniau sydd ar gael ar draws y sir. Mae'r cynlluniau yma'n bwysig iawn ac yn helpu ni i rannu negeseuon allweddol gyda trigolion Ceredigion.

• Mae Kerbcraft yn hyfforddiant i blant 5 i 7 oed, i’w dysgu ar sut i nodi llefydd diogel i groesi’r ffordd, croesi rhwng ceir wedi parcio a chroesi ar gyffyrdd.
• Mae Hyfforddiant Seiclo Safonau Cenedlaethol yn dysgu disgyblion sgiliau hanfodol i blant blwyddyn 6 am ddiogelwch ar y ffyrdd pan yn seiclo, yn ogystal â chynnal a chadw sylfaenol beiciau a sgiliau ar y maes chwarae.
• Mae Megadrive yn ddigwyddiad rhad ac am ddim wedi’i anelu at blant 16 a 17 blwydd oed. Yn cael ei drefnu gan Dîm Diogelwch y Ffyrdd, mae’n ddigwyddiad aml-asiantaeth, gan ddod a siaradwyr o Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Barod (Drug Aid gynt), Cymorth Cyntaf a sefydliadau eraill ynghyd. Darparir y digwyddiad yma i bob ysgol gyfun a cholegau yn y sir. Nid yn unig y mae gan y darpar-yrwyr gyfleoedd i siarad â’r amrywiaeth o asiantaethau, ond hefyd cynigir gwers gyrru am ddim iddyn nhw, gyda hyfforddwr o Canolfan y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) yn Aberporth.
• Wedi’i anelu at yrwyr newydd, mae PassPlus Cymru yn fenter ardderchog. Mae’r cwrs mewn dau ran; y rhan gyntaf yw trafodaeth wrth dderbyn cyflwyniad, sy’n tanlinellu’r deddfau a’r heriau sy’n wynebu gyrwyr newydd. Yr ail ran yw profiad gyrru chwech awr gyda Uwch Hyfforddiant Gyrru, ble bydd y bobl ifanc yn cael y cyfle i yrru ar draffyrdd, cylchfannau mawr ac amgylchedd trefol - profiadau dydyn nhw ddim yn cael yng Ngheredigion.
• Ystyrir bod beicwyr modur yn un o’r defnyddwyr ffyrdd mwyaf agored i niwed, felly rydym ni’n awyddus i dargedu beicwyr modur i fynychu’r cwrs hyfforddiant a gydnabyddir gan y DVSA. Mae hyfforddiant Cynllun Beicwyr Modur Uwch Ceredigion wedi’i deilwra i’r unigolyn, lle byddant yn trafod meysydd y byddent yn hoffi eu gwella fel beicwyr mewn grŵp trafod bach, gyda sesiwn ar y ffyrdd gyda hyfforddwr cymwys i ddilyn. Mae’r cwrs yma yn rhad ac am ddim i’r gyrwyr.
• Mae Biker Down! yn gwrs sy’n seiliedig yn y dosbarth, yr ydym wedi dechrau’n ddiweddar i gynnig fel cwrs beic modur ychwanegol yn y sir. Mae’n cael ei gynnal yn y nos mewn amrywiaeth o orsafoedd tân ar draws y sir, yn seiliedig ar y galw. Ar y cwrs yma, dangosir cymorth cyntaf sylfaen i yrwyr beiciau modur a beth i’w wneud os ydyn nhw’n dod ar draws gyrwyr sydd wedi dod oddi ar eu beic. Mae gyrwyr beiciau modur yn tueddu i deithio mewn grwpiau mawr, felly dyw e ddim yn anghyffredin i yrwyr eraill i fod y cyntaf ar y sîn. Darperir y cwrs yma mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Cwrs newydd a chyffrous sydd yn mynd i gael ei dreialu yng Ngheredigion yr haf hwn yw Cwrs Gyrwyr Aeddfed, wedi’i anelu at yrwyr dros 65 oed. Mae’r cwrs yn ddiwrnod llawn gyda sesiwn trafod yn y bore, gan egluro newidiadau a welir yn y Côd Priffyrdd, a thrafod anawsterau y gallai gyrwyr hŷn eu hwynebu. Yn y prynhawn, mae’r cwrs yn cynnwys profiad gyrru am ddim gyda hyfforddwr, a fydd yn rhoi cyngor defnyddiol gyda’r nod o gadw pobl hŷn yn gyrru’n well, am gyfnod hirach o amser.

Rydym yn rheolaidd mewn cyfarfodydd gyda’r Heddlu, y Gwasanaethau Tân, rhanddeiliaid ac asiantaethau eraill oll gydag un prif amcan sef lleihau anafiadau pellach trwy gydweithio. Yn bersonol, rwy’n edrych am gyfleoedd i roi sgyrsiau ar ddiogelwch ar y ffyrdd, neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol lle byddai presenoldeb diogelwch ar y ffordd yn cael ei ystyried yn ddefnyddiol neu’n fuddiol i’r gymuned drwy’r amser. Rwy’n berchennog ceffyl brwdfrydig ac yn deall i’r dim yr anawsterau sy’n wynebu wrth farchogaeth ar y ffordd. Mae newid agwedd ac ymddygiad defnyddwyr y ffordd yn dasg anodd iawn, ond yn y pen draw, os gellir newid ymddygiad, byddai’n arwain at lawer llai o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.

Dim ond ychydig o waith fy hun a’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd sydd i’w weld fan hyn yn gweithio i gadw trigolion Ceredigion yn ddiogel wrth fynd allan ar y ffordd. Am ragor o wybodaeth, i ddarganfod mwy am gyrsiau, os hoffech wirfoddoli i gynorthwyo’ch hyfforddwr Kerbcraft lleol neu i drefnu bws cerdded i’ch ysgol, peidiwch ag oedi rhag cysylltu. Rydym bob amser yn chwilio am syniadau a chynlluniau newydd i gymryd rhan, gan ledaenu neges diogelwch ar y ffyrdd yng Ngheredigion.

Ewch i dudalen Diogelwch ar y Ffyrdd ar wefan y Cyngor am ragor o wybodaeth am y cyrsiau. Gofynnwch am Kayleigh a’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd wrth alw'r Cyngor ar 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

 

14/03/2018