Gyda rhybuddion yn parhau i fod ar waith ar gyfer eira a rhew, a’r tywydd lleol yn newid yn gyflym, mae Cyngor Sir Ceredigion yn barod i sicrhau bod amhariadau yn cael eu cadw i’r lleiafswm posib gyda adnoddau'n cael eu canolbwyntio ar faterion a allai godi.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Technegol, “Cymerwyd penderfyniad ddoe yn unol â'r rhagolwg ac rydym yn gwneud popeth y gallwn ei wneud yn barod ar gyfer yr hyn a allai ddod. Oherwydd ein bod wedi atal gwasanaethau, megis cau ysgolion a chanolfannau gofal dydd, ac atal casgliadau gwastraff, medrwn wneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael. Ni fydd swyddogion yn gallu gwneud popeth a bod ymhobman, a bydd adnoddau'n cael eu defnyddio fel y bo blaenoriaethau'n nodi, gan gydnabod y gall y galw fod yn fwy na'r argaeledd.”

Mae’r A44 ar gau ar hyn o bryd o Gelli Angharad i Langurig. Caewyd y ffordd yn dilyn cais gan Heddlu Dyfed-Powys oherwydd eira yn drifftio a gwelededd gwael. Ar hyn o bryd, mae heolydd eraill ar agor i deithwyr gyda gofal mawr.

Mae hefyd yn bwysig i breswylwyr a'r rhai sy'n teithio yng Ngheredigion fod yn barod, fel y ailadrodda’r Cynghorydd Quant, “Cynghorir y cyhoedd i dalu sylw ar y wybodaeth sydd ar gael iddynt yn ystod digwyddiadau tywydd fel hyn, pan fydd amodau'n gallu newid yn gyflym. Os ystyrir bod angen teithio, yna dylid bod yn ofalus, gweithredu’n briodol a gwneud paratoadau addas.”

Hysbyswyd pob ysgol i gau heddiw Dydd Iau, 01 Mawrth a fory, dydd Gwener 02 Mawrth, 2018. Bydd y canolfannau gofal dydd hefyd ar gau a mae’r gwasanaethau casglu gwastraff yn cael eu hatal ar y dyddiau hyn. Bydd y safleoedd gwastraff cartref yn Llanarth, Llambed, Aberteifi ac Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon ger Aberystwyth i gyd ar gau ar ddydd Gwener 02 Mawrth 2018.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael eu darparu ynghylch y gwasanaethau a effeithir ar wefan y Cyngor a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae gwybodaeth am sefyllfa’r tywydd yn cael ei ddarparu gan y Swyddfa Dywydd www.metoffice.gov.uk/

01/03/2018