Fe wnaeth busnesau o bob rhan o'r Canolbarth ymgynnull yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar ddydd Iau 31 Ionawr i ddangos y potensial i dyfu yn y rhanbarth

Wedi'i drefnu gan Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, dangosodd y digwyddiad pa mor unigryw yw’r rhanbarth. Cafodd diwydiannau'r rhanbarth eu hyrwyddo, gan gynnwys ceir hydrogen a adeiladir ym Mhowys, cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf yn Aberystwyth, a busnesau pwysig o bob rhan o'r rhanbarth ar gyfer yr economi wledig a thwristiaeth.

Roedd cynrychiolwyr o gynghorau sir Ceredigion a Phowys - sy'n aelodau blaenllaw o Bartneriaeth Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru - yn hyrwyddo'r cyfleoedd economaidd enfawr ar draws y rhanbarth ac yn tanlinellu’r angen am fuddsoddiad cyhoeddus ynghyd â Bargen Twf ar gyfer Canolbarth Cymru.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol; rwy'n gwybod bod y digwyddiad wedi bod yn ddefnyddiol iawn i lawer o'r busnesau a fynychodd. Cafodd busnesau'r Canolbarth i’w gweld yn amlwg yn y Senedd, ond mae angen inni wneud yn siŵr bod y buddsoddiad yn dod i ganolbarth Cymru yn sgil hyn. Bydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn gweithio'n galed i wneud i hyn ddigwydd.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris, “Roedd yn gyfle gwych i fusnesau arddangos cryfderau economaidd niferus y rhanbarth ac edrychwn ymlaen at fynd â'r neges honno i gynulleidfa genedlaethol er mwyn cael Bargen Twf.”

Roedd y cynghorwyr ap Gwynn a Harris yn siaradwyr gwadd yn y digwyddiad, yn ogystal â Ken Skates AC, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

07/02/2019