Bydd pob un o’r chwe chwrs golff yng Ngheredigion yn parhau ar gau tan 1 Mehefin 2020.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu clybiau golff i ailagor o ddydd Llun 18 Mai 2020, yn ôl eu disgresiwn eu hunain.

Fodd bynnag, hoffai Cyngor Sir Ceredigion ddiolch i Bwyllgorau Gweithredol pob un o’r chwe chlwb golff yng Ngheredigion am eu cydweithrediad i oedi eu cynlluniau i ailagor.

Mae’r clybiau golff hyn yn cynnwys Clwb Golff Aberteifi, Clwb Golff Aberystwyth, Clwb Golff Borth ac Ynyslas, Clwb Golff Cilgwyn, Clwb Golff Cwmrhydneuadd a Chlwb Golff Penrhos.

Y rheswm dros hyn yw lleihau unrhyw deithio diangen yn y sir a’r cyffiniau dros y bythefnos nesaf.

Mae’r cyfyngiadau symud yn parhau yng Nghymru, yn wahanol i Loegr lle mae’r cyfyngiadau teithio wedi cael eu llacio, ac mae Ceredigion eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy’n mentro i'r sir i fwynhau ein cefn gwlad a’n traethau lleol.

Mae gan Geredigion un o’r canrannau mwyaf o boblogaeth hŷn yn y wlad, yn ogystal â 2,500 yn ychwanegol sydd wedi cael cyfarwyddyd i fod ar Restr Warchod y Llywodraeth. Felly, mae’r awydd i deithio yn ystod penwythnos gŵyl y banc ar ddiwedd y mis yn peri pryder arbennig i ni.

Adroddwyd yn wreiddiol y dylai Ceredigion baratoi ar gyfer 60,000 o achosion a 600 o farwolaethau yn sgil y coronafeirws. Hyd yma, rydym wedi cyfyngu’r gyfradd heintio i lai na 40, ac erbyn hyn dyma un o’r ardaloedd yr effeithiwyd arni leiaf ar dir mawr Prydain.

Mae’n rhaid i ni ddal ati i wneud yr hyn rydym wedi’i wneud hyd yma, gan weithio gyda’n gilydd i aros adref ac achub bywydau.

18/05/2020