Ailagorwyd y Safle Gwastraff Cartref yng Nglanyrafon ger Aberystwyth ddydd Iau 4 Mehefin.

Oherwydd y trefniadau newydd a roddwyd ar waith a chefnogaeth trigolion lleol, mae pethau wedi mynd rhagddynt yn dda hyd yn hyn, ac ni adroddwyd am unrhyw broblemau sylweddol. Yn rhan o Caru Ceredigion, hoffai’r Cyngor ddiolch o galon i drigolion am weithio gyda ni a chwarae eu rhan yn hyn.

Disgwylir i’r Safleoedd Gwastraff Cartref yn Llanbedr Pont Steffan a Chilmaenllwyd ger Aberteifi ailagor am 09:00 ddydd Iau 11 Mehefin, a’r safle yn Rhydeinon ger Llanarth i ailagor am 09:00 ddydd Mercher 17 Mehefin. Y gobaith yw y bydd trigolion yn parhau i ymddwyn yn gyfrifol ac yn synhwyrol drwy ymweld dim ond os oes gwir raid iddynt a glynu at yr holl drefniadau newydd sydd ar waith.

Mae mynediad i’r holl safleoedd wedi’i gyfyngu at ddefnydd hanfodol yn unig, gyda cheir sydd ag eilrifau yn eu rhifau cofrestru yn ymweld ar ddyddiadau sy’n eilrifau, a cheir sydd ag odrifau yn eu rhifau cofrestru yn ymweld ar ddyddiadau sy’n odrifau.

Os gellir storio’r eitemau gwastraff yn ddiogel gartref neu os gellir eu casglu yn rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff domestig arferol, ni ddylai trigolion geisio ymweld â’r safleoedd. Mae ymweld â’r safleoedd yn mynd i fod yn brofiad gwahanol iawn wrth symud ymlaen oherwydd y cyfyngiadau a’r ystyriaethau yn sgil pandemig COVID-19.

Mae’n hanfodol bod y cyhoedd yn deall ac yn glynu at y cyfarwyddiadau canlynol wrth geisio cael mynediad i’r safleoedd:

• Aberystwyth, Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. SY23 3JQ
Wedi ailagor ddydd Iau 4 Mehefin 2020
Os bydd y ciwiau’n ymestyn i brif ffordd drwodd Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, dylai trigolion adael a dychwelyd ar adeg/diwrnod arall oherwydd ni chaniateir ciwio sy’n effeithio ar y ffordd hon.

• Aberteifi, Cilmaenllwyd, Penparc, Aberteifi. SA43 1RB
Ailagor o ddydd Iau 11 Mehefin 2020. Os bydd ciwiau’n ymestyn i gefnffordd yr A487, dylech adael a dychwelyd ar adeg/diwrnod arall oherwydd ni chaniateir ciwio ar yr A487. Dim ond o gyfeiriad Aberteifi y dylai trigolion gael mynediad. Dim troi i’r dde oddi ar yr A487 o gyfeiriad Penparc – ewch ymlaen at gylchfan Stryd y Priordy ac ewch yn ôl.

• Ystâd Ddiwydiannol Llanbedr Pont Steffan, Heol Tregaron, Llanbedr Pont Steffan. SA48 8LT
Ailagor o ddydd Iau 11 Mehefin 2020. Os bydd ciwiau ar yr A485 neu’r A482, dylai trigolion adael a dychwelyd ar adeg/diwrnod arall oherwydd ni chaniateir ciwio sy’n effeithio ar y ffyrdd hyn.

• Llanarth, Rhydeinon, Llanarth. SA47 0QP
Ailagor o ddydd Mercher 17 Mehefin 2020. Dim ond o gyfeiriad Llanarth y dylid cael mynediad at y safle, a dylid gadael y safle drwy deithio tuag at Bost Bach. Ni chaniateir mynediad i gerbydau sy’n ceisio cael mynediad o Bost Bach.

Pan fydd sefyllfa’n newid neu’n newydd, efallai y bydd rhywfaint o ansicrwydd ynghylch yr hyn y gellir ac na ellir ei wneud, ac mae hynny’n gwbl naturiol. Felly, ynghyd â rheolau newydd y safleoedd, lluniwyd rhestr o Gwestiynau Cyffredin i helpu trigolion i benderfynu ai dyma’r amser priodol ai peidio i ymweld â’r Safleoedd Gwastraff Cartref. Gellir dod o hyd i’r cwestiynau cyffredin yma www.ceredigion.gov.uk/safle-gwastraff-cartref.

Mae’r holl fesurau wedi’u rhoi ar waith gyda’r bwriad o ddiogelu’r cyhoedd a staff ar y safleoedd yn ogystal â sicrhau eu bod yn gweithredu mor llyfn â phosib wrth sicrhau cyn lleied o amhariad â phosib ar y rhwydwaith priffyrdd lleol ac eraill.

08/06/2020