Cyngor Sir Ceredigion yw’r sir gyntaf yng Nghymru i gael cymeradwyaeth i gydlynu’r Cynllun Cysgodi yn lleol, gan ddarparu cymorth i fwy na 900 o bobl bob wythnos.

Mae’r fenter hon gan Lywodraeth Cymru yn rhoi’r opsiwn i breswylwyr sy’n cysgodi i gael parseli bwyd yn wythnosol os nad oes ganddynt deulu neu ffrindiau a all eu cefnogi i siopa yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Er bod y cynllun bellach yn ei wythfed wythnos, oddi ar 4 Mai 2020, mae Ceredigion wedi gallu sicrhau perchnogaeth lawn o gynnwys ac ansawdd y parseli bwyd trwy gynllun peilot gyda Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun lleol yn caniatáu i’r Cyngor ofalu bod y cynnyrch a gyflenwir yn cael ei ddarparu gan gyflenwyr lleol. Mae’r trefniant hwn hefyd yn galluogi parseli i gael eu pacio a’u dosbarthu’n lleol i gymunedau gan yrwyr y Cyngor.

Yr wythnos hon, bydd dros 900 o barseli yn cael eu dosbarthu ledled Ceredigion. Yn gyffredinol, hyd yma, mae mwy na 3,700 o barseli bwyd wedi cael eu dosbarthu i breswylwyr Ceredigion sy’n cysgodi. Mae hyn yn deillio o fwy na 3,000 o alwadau a wnaed i breswylwyr Ceredigion gan staff y Cyngor.

Dywedodd un preswylydd sy’n cysgodi: “Yn gyntaf, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb sy’n rhan o’r cynllun hwn yng Ngheredigion. Rwy’n hynod o ddiolchgar am y gwasanaeth hwn sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Ceredigion, gan nad wyf wedi gallu gadael y tŷ ers mwy na deufis. Roedd parsel bwyd yr wythnos diwethaf wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyliad. Mae’n amlwg bod ansawdd ac amrywiaeth y cynnyrch yn cael eu dethol yn ofalus i sicrhau ein hiechyd a’n lles ni, fel preswylwyr sy’n cysgodi. Rwy’n falch iawn o alw Ceredigion yn gartref i mi.”

Yn achos pobl nad ydynt yn bodloni’r meini prawf i gysgodi, ond y mae arnynt angen cymorth i siopa neu gael meddyginiaeth, gellir mynd i wefan Cyngor Sir Ceredigion i gael rhestr o’r opsiynau sydd ar gael yn eich ardal. Mae’r Cyngor yn diweddaru rhestrau adnoddau lleol deirgwaith yr wythnos, lle gall pobl gael eu cyfeirio at wybodaeth am ddosbarthiadau bwyd a grwpiau cymunedau lleol.

19/05/2020