Bydd Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth a’r Llusern Hud yn Nhywyn, Gwynedd yn dangos ffilm nodedig Goreuon Gŵyl Ffilm Merched dros 50 (Women over 50 Film Festival) ym mis Mawrth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae Amgueddfa Ceredigion a'r Llusern Hud yn Nhywyn yn gweithio mewn partneriaeth â chymorth ariannol gan Ganolfan Ffilm Cymru. Mae'r ddwy yn lleoliadau sinema hanesyddol gyda thraddodiad o ddangos sioeau ffilm yn dyddio'n ôl i'r 1900au.

Bydd dangosiadau arbennig ar Nos Wener 8 Mawrth yn Amgueddfa Ceredigion ag ar Nos Sadwrn 9 Mawrth a dydd Sul 10 Mawrth yn y Llusern Hud yn Nhywyn.

Bydd tri gwneuthurwr ffilmiau o Gymru yn ymuno yn y digwyddiadau hefyd - Annie Grove White o Gaerdydd, Gini Wade o Bowys a Jean Napier o Wynedd - ynghyd â Chyfarwyddwr yr Ŵyl, Nuala O’Sullivan.

Mae’r Gwŷl Ffilm Merched Dros 50 yn hybu ac yn arddangos gwaith gan ferched hŷn ar y sgrin a thu ôl i’r camera. Mae’n ymateb steilus a chryf i’r gwahaniaethu ar sail oedran a rhyw y mae llawer o fenywod yn ei wynebu yn y diwydiant ffilm. Daw rhai o’r ffilmiau a ddewiswyd o mor bell i ffwrdd â Thaiwan, Canada a Lebanon ac maent yn amrywio o raglenni dogfen i ddramâu, a ffilmiau animeiddiadau arbrofol.

Dywedodd Sarah Morton o Amgueddfa Ceredigion, “Mae’r Goreuon Gŵyl Ffilm Merched dros 50 yn ddetholiad hyfryd o 13 o ffilmiau byrion a fydd yn diddanu, yn syfrdanu ac yn cynhyrfu.”
Dywedodd Annie Grundy o’r Llusern Hud, “Does dim rhaid i chi fod yn fenyw dros 50 i werthfawrogi’r ffilmiau hyn. Mae’r dewis yn eang iawn, o ffilm ddireidus ‘Lady M’ i’r ffilm comedi ‘Good Girls Don’t’ am ferch ifanc sy’n herio rhybuddion ei mam y byddai’n troi mewn i fachgen pe bai’n chwarae pêl-fasged!”

Bydd y drysau yn agor yn Amgueddfa Ceredigion am 7yh lle bydd sesiwn holi cwestiynau gyda chyfarwyddwr yr Wŷl, Nuala O’Sullivan a’r gwneuthurwr ffilmiau Gini Wade yn cael ei gynnal. Mae ticedi ar gael am £6 wrth y drws, neu o flaen llaw am £5.

Yn y Llusern Hud yn Nhywyn, bydd y drysau yn agor 7yh am sesiwn holi cwestiynau gyda chyfarwyddwr yr Wŷl, Nuala O’Sullivan a’r gwneuthurwyr ffilmiau Annie Grove White a Jean Napier. Os hoffwch ddod am gaws dewch am 6yh, lle bydd y Llusern Hud yn cynnig siytni, gwin a’r picls! Mae ticedi ar gael am £6.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu tocynnau, cysylltwch â’r Amgueddfa Ceredigion ar 01970612125 neu museum@ceredigion.gov.uk. Cysylltwch â’r Llusern Hud ar 01654710260 neu tywyncinema@gmail.com.

28/02/2019