Cytunwyd ar gynnig yn galw am gadarnhad y dylai unrhyw dir a blennir er mwyn ennill credydau carbon yn cael ei wneud er budd Cymru a chymunedau lleol.

Mewn cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd yn rhithiol ddydd Iau, 23 Medi 2021, cafwyd cytundeb unfrydol gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion wrth iddynt alw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth i effeithiau lleol wrth ddeddfu ynghylch plannu tiroedd.

Mae’r cynnig yn cynnwys sicrhau bod unrhyw gymhorthdal drwy gynlluniau gan y llywodraeth ar gyfer rheoli carbon yn cael ei gadw fel credyd carbon er budd economi Cymru a’r bobl.

Byddai hyn yn cynnwys sicrhau bod gan bob sir enillion canrannol o unrhyw gredyd a gynhyrchir er mwyn eu gosod yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus a nwyddau o’r sir honno.

Yn ogystal â hyn, mae’r cynnig yn galw am sicrhau na ellir symbylu unrhyw werthiant neu les trydydd parti ar gredyd carbon y tu allan i Gymru oni bai bod Cymru yn garbon niwtral a lle y mae credyd o 10% dros ben.

Cyflwynwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ifan Davies o’r Grŵp Annibynnol a ddywedodd: “Mae Llywodraeth Cymru am i Gymru fod yn garbon niwtral erbyn 2050, ond mae yna argyfwng yn wynebu cefn gwlad ar hyn o bryd lle mae cwmnïau mawr yn prynu ffermydd lleol er mwyn eu plannu a manteisio ar gredydau carbon i’w gosod yn erbyn eu cynhyrchiant carbon eu hunain. Fel amaethwr, rwy’n cydnabod yr angen i blannu coed, ond mae’n bwysig bod hyn yn cael ei reoli a bod yna reoliadau ar waith i sicrhau na all cwmnïau gymryd mantais o’n hardaloedd gwledig gan effeithio ar ein cymunedau, ein hiaith a’n diwylliant.”

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rwy’n cefnogi’r cynnig arbennig hwn gan y Cynghorydd Ifan Davies. Bwriad y cynnig yw tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y gofidiau sydd gennym yng nghefn gwlad a’r angen iddynt sicrhau bod eu deddfwriaethau yn gallu amddiffyn cymunedau tebyg i’r rhai sydd gennym yng Ngheredigion a sicrhau na all cwmnïau mawr allanol fanteisio ar draul ein hardaloedd.”  

Gellir dod o hyd i’r Cynnig llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

23/09/2021