Mae Cynorthwyydd Gofal Dydd o Dregaron wedi cael ei chydnabod fel un o’r Sêr Gofal Cymdeithasol.

Gwobrwywyd Katie Hall, un o Gynorthwywyr Gofal Dydd yng Nghartref Gofal Bryntirion, Tregaron, am ei gwaith gyda'r preswylwyr yn ystod blwyddyn anodd iawn.

Enwebwyd Katie gan ei chydweithiwr, MC Lai a ddywedodd, “Mae Katie yn ofalwr rhagorol sy’n deall yr henoed yn reddfol ac sy’n gwybod sut i wneud iddyn nhw gredu ynddynt eu hunain a disgleirio, yn enwedig os oes ganddyn nhw ddementia. O fewn dyddiau i Covid-19 daro Min-y-Môr ym mis Rhagfyr 2020, Katie oedd yr unig aelod parhaol o staff yn y cartref gofal. Trefnodd Katie fod gofalwyr asiantaeth yn dod i’r cartref yn ystod yr argyfwng a gweithiodd ddydd a nos am wythnosau er mwyn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn medru gweld wyneb cyfarwydd a chael cysur o hynny. Hefyd, ei llais hi oedd y llais olaf i rai o’r preswylwyr ei glywed cyn i Covid eu dwyn oddi wrthym. Peryglodd ei bywyd heb feddwl ddwywaith gan wneud hynny yn ystod pob eiliad o bob shifft - a dim ond 26 oed yw hi! Pan glywaf am arwyr tawel, rwy’n meddwl am Katie yn y dyddiau ofnadwy hynny. Rwy’n credu’n ddiffuant fod ei hagwedd anhunanol, ei phroffesiynoldeb a’i dewrder yn haeddu cael eu cydnabod.”

Mae Sêr Gofal 2021, gan Gofal Cymdeithasol Cymru, yn rhoi cyfle i gydnabod enghreifftiau o ofal rhagorol. Mae'r Gwobrau'n cydnabod gweithwyr gofal sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol cadarnhaol i fywydau pobl ac sydd wedi helpu unigolion i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw hyd yn oed yng nghanol pandemig.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros y Porth Gofal, “Mae Katie yn llwyr haeddu’r wobr hon, gan iddi sicrhau’r gofal gorau posibl i breswylwyr Bryntirion. Diolch a llongyfarchiadau, Katie. Rydym yn hynod ddiolchgar i’n staff gofal cymdeithasol ar draws ein cartrefi yng Ngheredigion. Mae'r cartrefi wedi wynebu heriau mawr dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf ac mae’r staff wedi gwneud llawer mwy na’r disgwyl er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn. Ni allwn diolch digon iddynt.”

Y pedwar categori yn Sêr Gofal 2021 oedd:

  • Cefnogaeth gofal cymdeithasol i oedolion;
  • Cefnogaeth gofal cymdeithasol i bobl hŷn;
  • Cefnogaeth gofal cymdeithasol i blant;
  • Gwasanaethau gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar.

Enillodd Katie y categori ‘Cymorth gofal cymdeithasol i oedolion’.

23/07/2021