Cynhaliwyd Gweithdy ar gyfer Aelodau Etholedig i drafod Dyfodol Economaidd Ceredigion ar ddydd Iau, 8 Mawrth, gan ddod a rhai o sefydliadau mwyaf y sir at ei gilydd i rannu'r hyn sydd ganddynt i’w gynnig a sut y gall gwaith partneriaethol edrych yn y dyfodol.

Cynhaliwyd Gweithdy ar gyfer Aelodau Etholedig i drafod Dyfodol Economaidd Ceredigion ar ddydd Iau, 8 Mawrth, gan ddod a rhai o sefydliadau mwyaf y sir at ei gilydd i rannu'r hyn sydd ganddynt i’w gynnig a sut y gall gwaith partneriaethol edrych yn y dyfodol.

Gyda chyflwyniad a chefndir Tyfu Canolbarth Cymru gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, Eifion Evans, aeth Gweithdy Aelodau Dyfodol Economaidd Ceredigion ymlaen i drafod gweithio mewn partneriaeth â’r sefydliadau. Roedd Prifysgol Aberystwyth, Qinetiq Group PLC, West Wales Airport Ltd, Thales Group a Volac International Ltd yn bresennol yn sôn am gyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol ac yn amlinellu cynlluniau sylweddol ar gyfer twf yn y Sir.

Meddai'r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Cadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Mae cynnal y gweithdy hwn a chydweithio â rhai o sefydliadau'r sir yn dangos y sefyllfa gref yr ydym ynddo i ddatblygu. Rwy'n edrych ymlaen at weld datblygiadau cyffrous Tyfu Canolbarth Cymru yn y blynyddoedd i ddod ac yn arbennig felly o ran rhagolygon tymor hir. Roedd y gweithdy yn bwysig iawn i'r Aelodau i’w gwneud yn ymwybodol o'r cyfleoedd hyn a chroesawyd y sesiwn gan bawb a fynychodd.”

Cydnabuwyd cyfleoedd sylweddol gan fod rhanbarth Canolbarth Cymru yn dechrau datblygu ei hymateb i'r Llywodraeth ar y posibiliadau ar gyfer Fargen Twf.

Llun: Gweithdy Aelodau Dyfodol Economaidd Ceredigion gyda siaradwyr ar y bwrdd uchaf, sef Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor (Iaith Gymraeg a Diwylliant ac Ymgysylltu Allanol), Prifysgol Aberystwyth; Dr Anil Shukla, Cymrawd Qinetiq, Qinetiq Ltd; Yr Athro Chris J Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil); Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion; Raymond D Mann, Rheolwr Gyfarwyddwr, West Wales Airport Ltd; Nick Miller, Cyfarwyddwr Busnes, Thales Group. Mae Jonathan Hogg, Rheolwr Cyffredinol Felinfach, Volac International Ltd yn absennol o'r llun.

14/03/2018