Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion yn cynnal Asesiad o Lesiant Lleol. Rydym am ddarganfod mwy am lesiant pobl leol a chymunedau lleol, nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Gall llawer o bethau ddylanwadu ar lesiant ein hunigolion a'n cymunedau, megis ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Grŵp amlasiantaethol yw’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n cynnwys uwch-gynrychiolwyr o’r holl brif sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i bobl Ceredigion.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion: “Mae’r Asesiad o Lesiant Lleol yn ddogfen hanfodol a fydd yn cael ei defnyddio wrth lunio ein Cynllun Llesiant Lleol nesaf ar gyfer 2023-28. Mae cymryd rhan yn yr Asesiad o Lesiant Lleol yn rhoi darlun inni o les ein pobl a’n cymunedau lleol nawr, a sut mae ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn dylanwadu ar lesiant. Yn ogystal, mae’r asesiad hefyd yn ein helpu i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol, a byddwn yn annog pawb i ddweud eu dweud a chymryd rhan.”
Am wybod mwy?
Edrychwch ar Dudalen Ffeithiau Llesiant yng Ngheredigion.
I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion, ewch i dudalen y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Sut mae pobl yn cymryd rhan?
I gymryd rhan yn yr arolwg rhanbarthol ar lesiant, ewch i dudalen yr ymgynghoriadau ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.
Gallwch hefyd fynd i wefan newydd Dweud eich Dweud Ceredigion a chymryd rhan mewn gwaith ymgysylltu ar-lein.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd y wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei defnyddio, ynghyd â thystiolaeth arall, i gynhyrchu ein Hasesiad Ceredigion o Lesiant Lleol. Yna bydd yr Asesiad hwn yn cael ei ddefnyddio i lunio ein Cynllun Llesiant Lleol nesaf ar gyfer Ceredigion ar gyfer 2023-28. Bydd y Cynllun yn nodi ein hamcanion Llesiant a gwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Ceredigion.
Mae'r ymarfer ymgysylltu hwn ar agor tan 8fed Hydref 2021.
Os oes angen i chi gysylltu â ni neu os oes angen gwybodaeth arnoch, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk
13/08/2021