Mae dydd Mawrth, 12 Mai 2021, yn nodi 50 niwrnod hyd nes y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2021 i wneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.

Mae'r garreg filltir hon yn gyfle gwych i dynnu sylw holl ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir sy'n byw yn y Deyrnas Unedig at y dyddiad cau sy'n prysur agosáu.

Dylai holl ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir ac aelodau o'u teuluoedd sydd wedi bod yn preswylio yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020, wneud cais nawr fel eu bod yn gallu parhau i weithio, astudio a chael gofal iechyd am ddim a buddion yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn falch iawn o’r nifer helaeth o ddinasyddion yr UE sy’n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion. Mae’n braf gweld bod cymaint wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau hyd yma. Anogwn unrhyw un nad ydynt wedi cyflwyno cais eto i wneud hynny cyn gynted a phosibl er mwyn gallu parhau i gyfrannu a mwynhau pob agwedd ar fywyd yng Ngheredigion.”

Dylai unrhyw un sy’n adnabod rhywun nad ydynt wedi cyflwyno cais eto eu hannog i wneud hynny. Gallai’r rheiny fod yn gyfeillion, yn berthnasau, yn gymdogion, yn gyd-weithwyr neu’n gyflogeion o’r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a'r Swistir nad ydynt yn ymwybodol o’r angen i wneud cais a phwysigrwydd gwneud hynny.

Nid yw'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn ddewisol, ac mae’n rhaid i’r holl ddinasyddion yr effeithir arnynt wneud cais (yr unig eithriad yw unigolion o Weriniaeth Iwerddon).

Gallwch wneud cais ar gyfer y cynllun trwy ymweld â gwefan Llywodraeth y DU.

Mae cymorth pellach ar gael ar wefan EUSS Cymru

10/05/2021