Mynychodd dros 40 o fusnesau bwyd a diod o bob cwr o Gymru i’r Gynhadledd Atal Gwastraff yng Nghanolfan Bwyd Cymru ar ddydd Mawrth, 16 Hydref.

Trefnwyd y digwyddiad gan Ganolfan Bwyd Cymru mewn partneriaeth â Busnes Cymru. Ei amcan oedd annog cynhyrchwyr bwyd a diod i fabwysiadu agwedd gynaliadwy at eu busnesau, gan ychwanegu gwerth at eu brandiau, datblygu cysylltiadau busnes a hybu gwerthiant. Cafodd materion diwydiannol amserol iawn eu trafod, gan gynnwys deunydd pacio cynaliadwy, gwelliannau effeithlonrwydd prosesau ac atal gwastraff.

Dywedodd Iain Cox o EcoStudio a wnaeth agor y digwyddiad, “Mae’r gynhadledd hon yn cael ei chynnal ar adeg hollbwysig i’r diwydiant. Mae cynaliadwyedd yn bwysicach nag erioed. Mae prynwyr masnach a defnyddwyr eisiau cynnyrch bwyd a diod gan frandiau y gallant ymddiried ynddynt. Mae tarddiad, moeseg da, deunydd pacio ac atal gwastraff yn feysydd lle mae busnesau Cymru yn gallu arwain y ffordd.”

Amcangyfrifir bod marchnad y DU ar gyfer bwyd a diod sy’n cael eu cynhyrchu’n gynaliadwy yn werth £8.64 biliwn ar hyn o bryd a’i fod yn cynyddu 5% bob blwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet am yr Economi ac Adfywio, “Mae’r diddordeb ymysg defnyddwyr mewn prynu cynnyrch bwyd gyda lefelau mwyaf o gynaladwyedd yn cynyddu. Mae’n parhau i dyfu’n bellach, yn rhannol fel ymateb i’r ymwybyddiaeth gynyddol o’r broblem blastig byd eang, a hefyd wedi’i yrru gan y dymuniad i leihau gwastraff yn gyffredinol. Mae’r galwadau i’r diwydiant i ymateb hefyd yn cynyddu. Trwy Ganolfan Bwyd Cymru, mae Cyngor Sir Ceredigion yn hapus i allu gweithio gyda’r cynhyrchwyr bwyd sydd eisiau gwneud effaith ac i ddangos eu bod nhw’n gweithredu. Mae’r gynhadledd yma yn rhan o gyfres o weithrediadau bydd y Tîm yng Nghanolfan Bwyd Cymru yn cymryd i helpu’r diwydiant addasu eu hymarferion.”

Bu cynrychiolwyr o Marks and Spencer’s, Volac, Cwtch Glamordy a Natural Weigh yn rhannu eu profiadau o sut maen nhw wedi gwneud newidiadau i’w busnesau. Maent wedi gwneud y newidiadau er mwyn gwella effeithlonrwydd eu prosesau, lleihau gwastraff a gwneud dewisiadau deunydd pacio cynaliadwy ar sail gwybodaeth. Nododd y cwmnïau yr heriau y maen nhw wedi gorfod eu goresgyn, gan gynnig cyngor ymarferol ar gyfer busnesau eraill ar sut i fod yn fwy cynaliadwy.

Yn y digwyddiad, roedd cyfle i’r cynrychiolwyr fynd ar daith o gwmpas Canolfan Arloesi a Chynhyrchu Canolfan Bwyd Cymru a chymryd rhan yng ngweithdy ‘Addewid Twf Gwyrdd’ Busnes Cymru. Nod y gweithdy oedd helpu busnesau i ddatblygu cynllun ar gyfer ymgorffori blaenoriaethau cynaliadwyedd yn ogystal â dangos i gwsmeriaid eu bod yn gweithredu er budd y blaned.

Unrhyw fusnes sy’n dymuno’n cael gwybod mwy ar sut gallant nhw wneud eu deunydd pacio yn fwy cynaliadwy ac i edrych ar ffyrdd i leihau gwastraff, cysylltwch â Chanolfan Bwyd Cymru am fwy o wybodaeth ar 01559 362230 neu gen@foodcentrewales.org.uk.

22/10/2018