Dathlwyd cyflawniadau staff Cyngor Sir Ceredigion mewn cyfarfod o'r Cyngor ar 19 Rhagfyr 2019.

Roedd y digwyddiad yn cydnabod cyflawniadau staff y cyngor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cydnabuwyd llawer o gyflawniadau yn amrywio o ddyfarniadau cenedlaethol i gymwysterau a gyflawnwyd gan aelodau unigol o staff.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd, “Mae ein staff yn weision cyhoeddus ymroddedig sydd wedi darparu gwasanaethau rhagorol o dan straen ariannol enfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae llawer o aelodau staff yn amlwg wedi ffynnu yn y flwyddyn ddiwethaf, ac am hynny rwy'n eu llongyfarch yn fawr.”

Llongyfarchwyd yr aelodau staff gan yr Arweinydd a'r Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Davies MBE am eu llwyddiannau diweddar.

23/12/2019