Heddiw, 15 Hydref, mae Cyngor Sir Ceredigion yn dathlu Diwrnod Shwmae Su’mae 2019.

Mae diwrnod Shwmae Su’mae yn cael ei ddathlu ar draws Cymru, i hyrwyddo’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda ‘Shwmae’ neu ‘Su’mae’! Nod yr ymgyrch yw i ddangos fod y Gymraeg yn perthyn i ni gyd – siaradwyr rhugl, dysgwyr neu’r rheini sy’n swil am y Gymraeg. Mae’n gyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith – yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith, yn yr ysgol, ar y maes chwarae a gyda’ch ffrindiau.

I ddathlu Diwrnod Shwmae 2019, cynhaliwyd Clwb Cinio arbennig iawn i staff, drwy gynnal cystadleuaeth pobi. Cafodd Cara Buswell, o gwmni Cegin Cara Cilcennin y dasg galed iawn i ddewis yr enillwyr! Fodd bynnag, cipwyd y brif wobrau gan aelodau staff sydd ar amrwyiol gyrsiau i ddysgu’r Gymraeg. Bu’r digwyddiad yn gyfle gwych i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sgwrsio a defnyddio’r Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol. Ysgrifenwyd cerdd gan y prifardd, Gruffudd Eifion Owen yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Rhown wisg wen i'th deisenni - a rhown glod
fel cyrn gwlad i'th bobi.
Mae ein prifeirdd moyn profi
holl awen dy deisen di.

Yn ystod y digwyddiad cafwyd eitemau cerddorol gan Gôr Ysgol Llanilar. Ysgol Llanilar yw’r Ysgol gyntaf yn ardal Aberystwyth yng Ngheredigion i gyrraedd lefel Arian, yn rhan o brosiect Siarter Iaith Ysgolion Ceredigion; a hynny ar gyfer ysbrydoli disgyblion i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau er mwyn cynyddu defnydd o’r iaith y tu allan i’r dosbarth.

I goronoi’r dathlu cynhyrchwyd fideo sydd wedi ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor, er mwyn rhannu’r Gymraeg a rhoi gwybod i drigolion Ceredigion bod modd iddynt ddefnyddio’u Cymraeg wrth gysylltu gyda’r Cyngor.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Ellen ap Gwynn: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn hapus iawn i ddathlu Diwnrod Shwmae 2019, ac i annog pawb i ddefnyddio a rhannu’r Gymraeg. Mae gyda ni staff gweithgar ac ymorddedig sy’n siarad Cymraeg ar draws gwasanaethau’r Cyngor, ac rydym am annog pobl i gysylltu gyda ni yn y Gymraeg, ac i ddefnyddio’r gwasnaethau Cymraeg hynny. Felly, dewch inni ddechrau ein sgwrs, heddiw a phob diwrnod arall gyda Shwmae! Gwnewch y Gymraeg yn hwyl – rhowch gynnig arni!”

Gwyliwch y fideo Shwmae Cyngor Sir Ceredigion yma: https://youtu.be/WYrd3aT1fVA

 

 

15/10/2019