Ar 15 Mehefin yn Llanina Arms cafodd Wythnos Gofalwyr ei ddathlu gan Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion ar y cyd â phartneriaid trwy gynnal digwyddiad am ddim i Ofalwyr a oedd yn bwriadu i helpu gofalwyr i aros yn ‘iach ac mewn cyswllt'.

Cynhaliwyd nifer o weithgareddau a sgyrsiau drwy gydol y dydd, gan gynnwys gweithgareddau crefft, ymwybyddiaeth ofalgar, rheoli straen, a gofalu am eich lles corfforol ac emosiynol. Cafodd Gofalwyr y cyfle i dderbyn therapïau fel tylino’r dwylo ac ysgwydd.

Roedd amryw o sefydliadau wedi dod i’r digwyddiad fel, Y Groes Goch Brydeinig, Croesffyrdd Hafal, Gofalwyr Cymru ac Arts4Wellbeing er mwyn rhannu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau.

Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol sy’n cael ei arwain gan Carers UK i godi ymwybyddiaeth o ofalu, amlygu’r heriau sy’n wynebu Gofalwyr a chydnabod eu cyfraniad i deuluoedd a chymunedau. Fel rhan o Wythnos Gofalwyr, mae unigolion a sefydliadau yn dod at ei gilydd i drefnu gweithgareddau ledled y DU ac yn amlygu pwysigrwydd gofalu.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Eiriolwraig Aelodau am Ofalwyr, “Roedd yn bleser i fynychu’r digwyddiad ac i siarad â nifer fawr o Ofalwyr oedd wedi dod i ymuno â’r dathliadau ac i ddysgu am yr amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw. Dw i’n hollol ymwybodol o’r ymroddiad Gofalwyr ac yn gwerthfawrogi eu hymroddiad a gwaith caled yn eu rôl gofal. Mae miloedd o Ofalwyr yn ein sir o bob oedran ac rwy’n gobeithio mae’r arwyr tawel yn elwa o’r help a gwybodaeth sy’n cael ei gynnig gan Uned Gofalwyr y Cyngor, Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a sefydliadau elusennol.”

Mynychodd AS Ben Lake y digwyddiad yn ogystal â Chadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Hag Harris. Buodd y ddau siarad â gofalwyr o Geredigion.

Roedd nifer o staff o Gyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector wedi mynychu’r digwyddiad. Roedd llawer o Ofalwyr wedi mynychu’r digwyddiad trwy gydol y dydd gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwasanaethau neu help darparwyd gan yr â'r Uned Gofalwyr, ffoniwch 01970 633564 neu carersunit@ceredigion.gov.uk.

22/06/2018