Mae canllawiau a chymorth newydd yn cael eu cyhoeddi yng ngoleuni newidiadau diweddar i’r cyfyngiadau a’r gorchmynion i gau darpariaethau llety gwyliau, gan fanylu ar rai eithriadau penodol.

Mae’r cyfyngiadau sydd wedi dod i rym yn sgil y coronafeirws wedi ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n darparu safleoedd a llety gwyliau yng Ngheredigion gau eu safleoedd, neu roi'r gorau i ddarparu eu gwasanaethau yn ystod yr argyfwng hwn, a hynny’n amodol ar rai eithriadau. Mae'r mathau hyn o lety gwyliau yn cynnwys safleoedd gwersylla, gwestai, llety gwely a brecwast, fflatiau gwyliau, hosteli a thai preswyl.

Mae eithriad i'r gofyniad i gau yn cynnwys pan nad oedd unigolyn, a oedd yn aros mewn llety o’r fath pan ddaeth y gofynion i rym, yn gallu dychwelyd i'w brif breswylfa, neu’n defnyddio'r llety dan sylw fel ei brif breswylfa ar y pryd. Dylai busnesau sicrhau bod yr eithriadau’n cael eu rhoi ar waith mewn modd priodol ac, os bydd amheuaeth, dylent ofyn am gyngor gan Dîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion. Nid yw'r eithriad penodol hwn yn berthnasol i safleoedd gwyliau a gwersylla.

Oddi ar 24 Mawrth 2020, mae’n ofynnol i bobl sy'n gyfrifol am safleoedd gwyliau a gwersylla wneud eu gorau glas i fynnu bod unrhyw unigolyn sy'n aros ar eu safle yn gadael. Bydd yr ymdrechion hynny’n cynnwys cymryd camau cadarnhaol i ofyn i bobl adael y safle. Os na fydd y busnes yn teimlo bod yna reswm credadwy a chymhellol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i bobl barhau ar y safle, yna dylai ofyn iddynt adael, neu ofyn am gyngor gan Dîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.

Efallai y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i fusnesau ddarparu llety i weithwyr allweddol, ac i ddibenion penodol eraill. Os gofynnir i fusnes ddarparu llety y tu hwnt i'r eithriadau uchod, yna mae’n rhaid iddo sicrhau ei fod yn cael tystysgrif eithrio gan Gyngor Sir Ceredigion yn manylu ar y diben y gall aros ar agor, ynghyd ag i ba raddau y gall wneud hynny. Gall busnesau wneud cais am dystysgrif eithrio trwy anfon cais dros e-bost at dîm Diogelu'r Cyhoedd: publicprotection@ceredigion.gov.uk, neu trwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid Clic Ceredigion ar 01545 570881.

Anogir unrhyw fusnes sy'n darparu llety i weithwyr allweddol ar hyn o bryd, ac nad yw'r Awdurdod wedi gofyn eto iddo aros ar agor i’r diben hwnnw, gysylltu â’r Tîm Diogelu'r Cyhoedd i gael cyngor pellach ar unwaith.

Er eglurder, oni bai bod Gweinidogion Cymru neu Awdurdod Lleol Ceredigion wedi gofyn yn benodol i fusnesau yng Ngheredigion aros ar agor, rhaid iddynt barhau AR GAU. Bydd unigolion a fydd yn gyfrifol am gynnal busnesau (gan gynnwys perchnogion a rheolwyr) yn destun camau gorfodi os na fyddant yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau. Mae'r opsiynau posibl yn cynnwys erlyn, a allai arwain at ddirwyon diderfyn wrth gael eu heuogfarnu.

Mae'r gorchmynion cau yn berthnasol i fusnesau sy'n cynnig llety gwyliau yn unig, ac nid ydynt yn effeithio ar gartrefi a llety preifat.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru yma. (Tudalen Saesneg yn unig).

16/04/2020