Mae strategaeth newydd i fynd i'r afael â chaledi yng Ngheredigion wedi cael ei chymeradwyo.

Cafodd y Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi ei chymeradwyo mewn cyfarfod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion a gynhaliwyd dros Zoom ddydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2020.

Cyflwynwyd y Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi gan fod Strategaeth Gwrth-dlodi’r Cyngor Sir yn dod i ben eleni.

Mae’r strategaeth yn amserol o ystyried effeithiau posibl argyfwng y coronafeirws ar drigolion y sir, er enghraifft yr effaith ar lesiant cymdeithasol ac economaidd pobl, ynghyd â chynnydd yn y risg o unigolion a theuluoedd a allai brofi caledi.

Amcan y Strategaeth yw mynd i'r afael â chaledi trwy ddarparu fframwaith cadarn a fydd yn galluogi cyd-ddealltwriaeth o'r sefyllfa, gan atgyfnerthu a datblygu amrywiaeth o fesurau i liniaru risgiau a rhoi camau gweithredu cynnar ac ataliol ar waith. Bydd y strategaeth yn darparu un ddogfen fydd yn sicrhau bod arweinwyr y Cyngor, ein partneriaid a'r cyhoedd yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ar gynnydd.

Mae cydweithredu yn rhan allweddol o’r strategaeth, ac ymgysylltwyd â 23 o sefydliadau i gasglu data ynghylch caledi er mwyn llunio’r strategaeth hon.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Mae cyflwyno’r strategaeth hon yn amserol iawn o ystyried heriau diweddar argyfwng y coronafeirws. Bydd y strategaeth yn galw am ymgynghori pellach â phartneriaid a’r cyhoedd er mwyn datblygu Cynllun Gweithredu manwl i roi’r strategaeth bwysig hon ar waith ledled y sir. Rydym yn gobeithio y bydd yn darparu fframwaith gadarn i roi mesurau lliniaru risg ar waith i fynd i’r afael ag effeithiau posibl y coronafeirws ar lesiant cymdeithasol ac economaidd preswylwyr Ceredigion.”

Mae’r strategaeth yn cyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion, ynghyd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru).

 

07/07/2020