Yng nghyfarfod y Cabinet ar 25 Chwefror 2020, cymeradwywyd cynnig ynghylch dyfodol hen gartref gofal, Penparcau, Aberystwyth.

O ystyried yr angen parhaus am dai fforddiadwy yn y Sir, cytunodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda’r argymhelliad i gysylltu â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gyda’r gobaith y gellir cytuno ar werthiant o fewn 3 mis. Os nad oes modd cyflawni hyn, yna bydd y safle’n cael ei werthu ar y farchnad agored heb nodi unrhyw ddefnydd penodol.

Rhoddwyd y safle ar y farchnad i ddechrau ar ôl rhoi terfyn ar y ddarpariaeth gofal preswyl a phob gwasanaeth arall ym Modlondeb ar 31 Mawrth 2018. Rhoddwyd blaenoriaeth i brynwyr a oedd yn bwriadu defnyddio’r safle fel Cartref Nyrsio i’r Henoed Eiddil eu Meddwl, Cartref Gofal Preswyl Dementia, neu Lety i Bobl Ifanc sydd angen Tai Cymdeithasol. Er y dangoswyd diddordeb yn yr eiddo, nid oedd y darpar brynwr yn gallu bwrw ymlaen â’r gwerthiant, ac nid oedd y cais arall a dderbyniwyd yn bodloni’r defnyddiau a ffefrir.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio. Dywedodd “Siomedig oedd peidio â sicrhau gwerthiant ar gyfer un o’r defnyddiau ffafriol cychwynnol. Mae hi bellach yn amser priodol i ystyried opsiynau eraill er mwyn gwella’r apêl i brynwyr posib eraill. Gobeithio y bydd sgyrsiau rhwng Swyddogion a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn bositif. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr adeilad hwn yn cael bywyd newydd. Bydd hyn yn ei dro yn helpu’r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol o Galluogi Cydnerthedd Unigolion a Theuluoedd yn ogystal a Hybu’r Economi.”

Bydd yr arian a wneir o ganlyniad i werthu Bodlondeb yn cael ei glustnodi er mwyn buddsoddi yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer cartrefi preswyl y Cyngor.

25/02/2020