Bydd darpariaeth breswyl newydd yn cael ei datblygu gan Gyngor Sir Ceredigion i alluogi plant a phobl ifanc sydd angen gofal a chymorth i barhau yn eu sir eu hunain.

Ar hyn o bryd, nid oes darpariaeth breswyl cofrestredig ar gyfer plant a phobl ifanc ar gael yng Ngheredigion ac mae’r sawl sydd angen y cymorth yma yn cael eu lleoli tu allan i'r sir ac, ar adegau, tu allan i Gymru. Gall amgylchiadau o’r fath gael effaith negyddol wrth i blant orfod symud i ffwrdd oddi wrth eu cymunedau.

Yn ystod cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd yn rhithiol ar 07 Rhagfyr 2021, cymeradwywyd y byddai cartref bach yn cael ei sefydlu yng nghanol Ceredigion a fyddai’n cynnwys staff medrus, hyfforddedig i ddarparu gofal o safon 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Bydd strategaeth hefyd yn cael ei datblygu i ystyried opsiynau tebyg mewn lleoliadau eraill ledled y sir a bydd hyn yn ffurfio rhan o ddatblygiad ranbarthol ehangach.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc lleol yn cael y gofal gorau posibl, gan hefyd gadw teuluoedd mewn cyswllt cyson pa fo hynny’n ddiogel i’w wneud. Bydd y cyfleuster newydd yn rhoi cyfle i blant barhau y ddiogel yn eu cymuned, manteisio ar eu haddysg yn lleol, meithrin sgiliau, gwella eu cyfleoedd mewn bywyd a chyfrannu’n gadarnhaol at wead ehangach y sir. Mae cynnig darpariaeth ddwyieithog hefyd yn flaenoriaeth i Geredigion er mwyn galluogi unigolion i gynnal eu cysylltiadau â chymunedau Cymraeg eu hiaith a’u hunaniaeth Gymreig eu hunain.

Cartref Bach

Yn dilyn y pandemig, mae Cyngor Sir Ceredigion, ar y cyd â nifer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y teuluoedd sydd angen cymorth a’r nifer o blant a phobl ifanc sydd angen gofal.

Gyda’r cynnydd hwn a’r prinder ledled y DU mewn lleoliadau maethu a phreswyl, mae wedi dod yn fwy anodd sicrhau lleoliadau addas i blant a phobl ifanc.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Porth Gofal – Gwasanaethau Arbenigol Gydol Oes: “Mae lles trigolion o’r pwys mwyaf yng Ngheredigion. Rydym am ddarparu’r cymorth y mae ar bobl ifanc ei angen yn eu cymunedau eu hunain, neu’n agos ato, yn hytrach na gweld y rheiny mewn sefyllfaoedd heriol yn gorfod symud i ffwrdd a threulio eu plentyndod yn bell i ffwrdd o’u cartrefi. Bydd galluogi pobl ifanc lleol i aros yn eu sir yn helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd a bydd parhau’n rhan o’u cymuned yn helpu i ddarparu sefydlogrwydd a hyder y mae ar bobl ifanc eu hangen i ddatblygu. Mae creu cyfleuster llety diogel yng Ngheredigion yn gam pwysig yn y cyfeiriad cywir.”

Ychwanegodd Sian Howys, Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn rhoi dyletswyddau cyfreithiol ar Awdurdodau Lleol, fel rhiant corfforaethol, i sicrhau bod plant yn cael gofal mor agos at eu cartrefi â phosibl a’u bod yn gallu cynnal perthnasoedd diogel â’u teuluoedd a’r bobl sydd yn bwysig iddynt. Mae adroddiad diweddar y Comisiynydd Plant, ‘Dim Drws Anghywir’, yn cyflwyno disgwyliad clir i'r Awdurdodau Lleol a’r Byrddau Iechyd weithio gyda’i gilydd yn unol â’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i feithrin amrywiaeth o wasanaethau cymorth integredig ar gyfer plant ag anghenion ymddygiadol ac emosiynol dwys.”

Bydd gwaith ymgynghori pellach yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd. Mae’r penderfyniad yn cyd-fynd â lansiad Strategaeth Gydol Oes a Llesiant 2021-2025 Cyngor Sir Ceredigion, sy’n nodi gweledigaeth y Cyngor i ddatblygu amrywiaeth o gymorth arloesol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i helpu i ddiogelu a hyrwyddo llesiant pobl Ceredigion.

07/12/2021