Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi adroddiad heddiw, ddydd Iau 24 Ionawr, am yr ymchwiliad annibynnol ynghylch y berthynas rhwng rheolwyr a staff yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Lansiwyd yr ymchwiliad yn wreiddiol ar ôl i aelodau blaenorol o staff fynegi materion.

Ni chanfu'r ymchwiliad unrhyw dystiolaeth o fwlio neu fygwth a gwnaeth yr argymhellion canlynol:

1. Gweithio gyda staff i gydnabod eu cyfraniad wrth wneud Ysgol Uwchradd Aberteifi yn ysgol lwyddiannus. Parhau i ddatblygu ethos tîm.
2. Adolygu gweithdrefnau monitro presennol, yn enwedig llwybrau dysgu a llais y disgybl. Ystyriwch y rhain o dan y canllawiau llwyth gwaith presennol ac yng nghyd-destun bod yn ysgol lwyddiannus.
3. Gweithio gyda staff i sefydlu diwylliant a phroses er mwyn galluogi pryderon staff i gael eu lleisio a mynd i’r afael â’r rhain mewn modd adeiladol.
4. Atgoffa staff am Bolisi Cyfryngau Cymdeithasol yr ysgol a’r cyngor a ddarperir gan undebau llafur a Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
5. Datblygu ethos tîm ymhellach drwy rannu cyfrifoldebau arwain a chynnwys mwy o staff mewn prosesau megis monitro er mwyn osgoi’r canfyddiad mai’r pennaeth yw’r unig un sy’n gyfrifol am wella’r ysgol.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i weithio gyda Chorff Llywodraethu'r ysgol, yr holl staff a'r undebau llafur er mwyn gweithredu'r argymhellion hyn ar waith.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, "Mae'r Cyngor yn cymryd unrhyw bryderon am ymddygiad staff ysgolion o ddifrif, a dyna pam ein bod wedi comisiynu ymchwiliad annibynnol i’r materion a godwyd gan y staff presennol a chyn-aelodau’r staff."

"Mae safonau Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi gwella'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, gan ddarparu canlyniadau addysgol ardderchog i filoedd o ddisgyblion. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r pennaeth, ei grŵp arwain, a'r holl staff yn yr ysgol y mae eu gwaith caled wedi bod yn ganolog i wella’r safonau."

"Fodd bynnag, er mwyn i'r ysgol weithio'n effeithiol, rydym eisiau sicrhau bod pob aelod o staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn gweithio gyda'r ysgol i gyflawni'r holl argymhellion a wnaed yn yr adroddiad annibynnol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r holl staff a'u hundebau er mwyn sicrhau bod Ysgol Uwchradd Aberteifi yn parhau i fod yn ysgol lewyrchus."

Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gydag undebau'r athrawon ac mae'n gwerthfawrogi eu rôl fel eiriolwyr dros staff addysgu yn ysgolion Ceredigion. Fodd bynnag, mae'n anffodus bod undeb athrawon Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) wedi penderfynu mynd ar streic yn Ysgol Uwchradd Aberteifi cyn cyhoeddi canfyddiadau'r ymchwiliad. Fodd bynnag, gobeithir y bydd trafodaethau adeiladol yn parhau gyda'r Gymdeithas er mwyn ceisio datrys y sefyllfa ac osgoi'r camau pellach y bwriedir eu cymryd ddydd Mawrth 05 Chwefror, ddydd Mercher 06 Chwefror, ddydd Mawrth 12 Chwefror, ddydd Mercher 13 Chwefror a dydd Iau 14 Chwefror.

Gellir gweld adroddiad llawn yr ymchwiliad annibynnol drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://www.ceredigion.gov.uk/media/4916/investigation-report-yua.pdf

 

24/01/2019