Fore Iau 10 Mehefin, cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Penrhyn-coch ac Ysgol Gyfun Penweddig alwad Zoom annisgwyl yr holl ffordd o Baku, prifddinas Azerbaijan. Cafodd yr alwad ei gwneud gan Ben Davies, chwaraewr pêl-droed proffesiynol dros Gymru, sydd ar hyn o bryd mewn gwersyll gyda gweddill tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn Baku cyn eu gêm agoriadol yn nhwrnamaint Ewro 2020 yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn.

Ar ôl y sioc gychwynnol o weld Ben yn ymddangos ar y sgrin o'u blaenau, cafodd disgyblion o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6 Ysgol Penrhyn-coch a disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Penweddig gyfle i gyfweld â Ben. Cynhaliwyd y cyfweliad, a drefnwyd yn rhan o Siarter Iaith Ceredigion, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd yn amlwg o'r wynebau hapus fod yr holl ddisgyblion wedi mwynhau'r profiad arbennig hwn yn fawr iawn, a’i fod yn brofiad y byddant yn ei gofio am byth. Roedd angerdd y plant yn arwydd o'r gefnogaeth gref sydd i Ben a gweddill tîm Cymru yng Ngheredigion.

Nid oedd yr un o'r disgyblion yn gwybod am y cyfweliad ymlaen llaw. Yr unig gliw a roddwyd gan yr ysgolion oedd y gofynnwyd i bob un o'r disgyblion wisgo coch i'r ysgol ddydd Iau.

Dywedodd Liwsi Curley, disgybl o Ysgol Penrhyn-coch: "Dwi mewn sioc o weld un o fy arwyr yn fyw ar Zoom! Mae e wedi bod yn brofiad arbennig ac un o brofiadau mwyaf hapus fy mywyd. Diolch yn fawr Ben Davies. Ewch amdani Gymru!"

Atebodd Ben lawer o gwestiynau'r disgyblion. Roedd Twm Aron Williams a Caio Brychan, disgyblion o Ysgol Penrhyn-coch sy'n gefnogwyr brwd i Ben, yn ddau o'r disgyblion lwcus hynny. "Pe gallet ti ddewis tîm pêl-droed pump-bob-ochr ffantasi, pwy fyddai ynddo?” Ar ôl ateb, gofynnodd Ben yr un cwestiwn i Caio, a atebodd ar unwaith: "Ti ac yna Bale, Ramsey, Moore a Henesey!"

Dywedodd Dr Rhodri Thomas, Pennaeth Ysgol Penweddig: “Braf oedd gweld ymateb disgyblion blwyddyn 7 i’r sesiwn gyda Ben Davies heddiw. Roedd y disgyblion wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ddarganfod mwy am y profiad o gynrychioli’ch gwlad a phwysigrwydd ymarfer, gwaith caled a dilyn cyngor eraill er mwyn llwyddo. Mae disgyblion blwyddyn 7 wedi cynhyrfu ac yn edrych ymlaen at gefnogi Cymru yn y gystadleuaeth dros yr wythnosau nesaf. Pob lwc i’r tîm yn Rhufain a Baku!”

Dywedodd Finley Saycell, disgybl blwyddyn 7 yn Ysgol Penweddig “Roedd y profiad heddiw yn un arbennig. Diolch i bawb oedd wedi rhoi’r cyfle i ni. Roedd yn ardderchog. Siaradais â Ben Davies - un o chwaraewyr gorau Cymru!”

Mae Ben Davies wedi ennill dros 50 o gapiau dros Gymru ac wedi chwarae yn yr Ewros o’r blaen yn 2016. Mynychodd Ben, a anwyd yng Nghymru, Ysgol Gyfun Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot.

Yn dilyn y cyfweliad dywedodd Ben Davies: "Roedd hi'n hyfryd siarad gyda'r plant a gweld y gefnogaeth sydd yna i ni – WAW!"

10/06/2021