Bydd Tîm newydd i’w gweld yn Nhŷ Coffi’r Colisewm, o 08 Hydref gan ddechrau cyfnod newydd i caffi Amgueddfa Ceredigion.

Mae Amgueddfa Ceredigion yn ffarwelio â Mike a Nicola Dalton, sydd wedi rhedeg Tŷ Coffi’r Colisewm ers agoriad swyddogol adain newydd yr Amgueddfa ym mis Awst 2017.

Mae Mike a Nicola, o’r Amwythig, yn gadael y caffi yn nwylo medrus y staff presennol. Dywedodd Mike Dalton: “Rydym ni’n drist iawn i ddweud ffarwel. Rydym wedi datblygu caffi hynod o wych gyda chymorth ein tîm penigamp yn lleoliad hyfryd Amgueddfa Ceredigion.”

Dywedodd Curadur Amgueddfa Ceredigion, Carrie Canham, “Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Mike a Nicola a byddwn yn gweld eu heisiau. Fodd bynnag, rydym yn hyderus y bydd eu staff cyfeillgar a thalentog yn parhau i weini bwyd a diod gwych. Edrychwn ymlaen at gyfnod newydd a datblygu’r busnes ymhellach.”

Bydd y caffi yn cau am wythnos o ddydd Sadwrn 29 Medi tan ddydd Sul 7 Hydref am resymau cytundebol.

26/09/2018