Bu'n wythnosau prysur i Lysgenhadon Chwaraeon Ifanc Ceredigion.

Derbyniodd y Llysgenhadon Arian Ifanc hyfforddiant yn ystod gwyliau hanner tymor mis Hydref yn barod i fynd yn ôl i'w hysgolion a'u clybiau i ddarparu gweithgareddau chwaraeon. Roedd yr Hyfforddiant Pobl Ifanc Egnïol yn cynnwys cynllunio, cyflwyno a gwerthuso sesiynau ac iechyd a diogelwch.

Agwedd bwysig iawn o'r cwrs oedd Cynhwysiant Anabledd gan fod yr holl weithgareddau a gynigir trwy Actif Ceredigion yn gynhwysol. Mae Llysgenhadon Ifanc anabl yn ymwneud â gwahanol raglenni ar draws y sir.

Mynychodd Pedwar Llysgennad Ifanc Aur Gynhadledd Llysgenhadon Ifanc Aur Cymru yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd. Roedd hwn yn gyfle i Lysgenhadon Aur Ifanc o bob cwr o Gymru ddod ynghyd a chynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Roedd Eddie Roper (Ysgol Bro Pedr), Sioned Rimmer, Dwynwen Davies ac Elinor Thomas (oll o Ysgol Gyfun Penweddig) yn gallu rhannu eu syniadau a'u harferion da yng Ngheredigion yn ogystal â derbyn araith ysgogol gan Pencampwr Sglefrio Inline y Byd, Jenna Dowing. Roedd Osian Davies yn ymwneud â chynllunio a rhedeg y diwrnod fel rhan o'i rôl ar Grŵp Llywio Llysgenhadon Cenedlaethol Ifanc. Mae Osian yn Llysgennad Ifanc Platinwm i Geredigion.

Dywedodd Alwyn Davies, Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol, “Dyma ddau gyfle gwych i'n Harweinwyr Chwaraeon Ifanc yng Ngheredigion. Maent wedi dangos brwdfrydedd a chymhelliant mawr i ddod yn Lysgenhadon Ifanc ac maent yn datblygu'n arweinwyr hyderus yn ein hysgolion a'n clybiau cymunedol.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden, “Nod yr hyfforddiant a'r gynhadledd oedd gwella hyder ym medrau arweinyddiaeth Llysgenhadon Ifanc o amgylch ysgolion Ceredigion. Mynychodd 15 o Lysgenhadon Ifanc yr Hyfforddiant Pobl Ifanc Actif a mynychodd pedwar Llysgennad Ifanc Aur y Gynhadledd Genedlaethol Llysgennad Ifanc Aur. Mae hwn yn gyfle gwych i'n pobl ifanc ac rwy'n falch iawn ohonyn nhw i gyd.”

 

14/11/2018