P’un a ydych yn ofalwr newydd neu wedi bod yn gofalu am rywun ers peth amser, mae’n bwysig eich bod chi’n deall eich hawliau ac eich bod yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ar gael i chi cyn gynted ag y bydd ei angen arnoch, lle bynnag yr ydych chi ar eich siwrnai ofalu.

Mae’n bwysicach nag erioed bod gofalwyr yn gofalu am eu hiechyd a’u lles eu hunain yn ogystal â’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Fel rhan o Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr eleni, mae Uned Gofalwyr Ceredigion a’n partneriaid am sicrhau bod gan ofalwyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar flaenau eu bysedd, fel y gallant deimlo’n hyderus i ofyn am yr hyn sydd ei angen arnynt.

Mae’r Uned Gofalwyr a’n partneriaid wedi rhoi at ei gilydd rhifyn swmpus o Gylchgrawn Gofalwyr y gaeaf. Mae’n cynnwys cyfeiriadur o wasanaethau sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor ynglŷn â’ch hawliau, gan gynnwys lle i gael cymorth a chefnogaeth yng ngorllewin Cymru.

Mae hefyd rhaglen o sgyrsiau a sesiynau hyfforddi ar-lein am ddim i ofalwyr (gellir ymuno dros y ffôn hefyd). Mae’r rhaglen hon yn rhedeg hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021.

Gall bod yn ofalwr gael effaith andwyol ar eich lles. Mewn arolwg diweddar gan Carers UK, dywedodd 78% o ofalwyr yng Nghymru nad ydynt wedi cael seibiant iawn o'u rôl ofalu ers i argyfwng COVID-19 ddechrau. O ganlyniad i hyn, soniodd 66% o’r gofalwyr fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu oherwydd y pandemig.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Eiriolwr dros Ofalwyr, Cyngor sir Ceredigion: “Mae’r cylchgrawn a’r rhaglen o sgyrsiau a chyrsiau byr yn apelio at ystod eang o ofalwyr di-dâl. Mae rhywbeth i ofalwyr sy’n rhieni, gofalwyr dementia, gofalwyr ifanc, y rheini sy’n gofalu am rywun sydd wedi’i effeithio gan broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau a phopeth yn y canol, ac mae’n berthnasol i’r rheini sy’n gofalu am bobl o bob oedran. Os ydych yn gwybod am unrhyw un sydd â chyfrifoldebau gofalu a fyddai’n elwa o’r cylchgrawn a’r sesiynau cyngor am ddim, rhannwch y neges â nhw.”

Catherine Moyle yw Swyddog Cefnogi a Datblygu Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Estynnir croeso cynnes i bob gofalwr di-dâl yn y sir a’r rheini yr ydych yn gofalu amdanynt. Mae hwn yn gyfnod heriol. Mae gofyn am gymorth pan mae ei angen arnoch yn ffurf ar hunanofal ac yn rhoi hwb i’ch gwytnwch. Mae’n cymryd person cryf i ddal ati i ofalu – mae’n cymryd person cryfach a mwy gwydn i ofyn am gymorth gan eraill.”

Mae’r rhaglen o sesiynau ar-lein a’r cylchgrawn ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-ofalwyr/diwrnod-hawliau-gofalwyr-2020/ ac ar eu tudalen Facebook @CSCeredigion o dan digwyddiadau.

Os byddai’n well gennych chi gael copi wedi’i argraffu o’r cylchgrawn neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Uned Gofalwyr Ceredigion ar 01970 633564 neu anfonwch e-bost at unedgofalwyr@ceredigion.gov.uk.

30/11/2020