Mae gwaith y Cyngor yn mynd yn ei flaen gyda ail-ddechrau cyfarfodydd, a’r rheiny ar-lein.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru deddfwriaeth sef Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020. Mae’r ddeddfwriaeth yma yn rhoi mwy o hyblygrwydd i Gynghorau ar sut y bydd cyfarfodydd yn cynnull ac yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd cyfarfod Cabinet yn cael ei gynnal ar 9 Mehefin 2020 am 10.00am. Yn dilyn y ddeddfwriaeth, bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl neu'n rhannol trwy feddalwedd fideo-gynadledda, Zoom. Zoom sy’n cael ei ddefnyddio gan Llywodraeth Cymru i cynnal eu cyfarfodydd.

Medrir gweld papurau’r cyfarfod Cabinet ar wefan y Cyngor ar 02 Mehefin.

Bydd y cyfarfod ar gael ar dudalen Facebook y Cyngor.

Ar hyn o bryd, nid oes bwriad i ailgychwyn y rhaglen gyfarfod arferol, a bydd unrhyw gyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu blaenoriaethu.

Cynhaliwyd y cyfarfod Cabinet diwethaf ar 17 Mawrth 2020. Rhoddodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, bwerau dirprwyedig i grŵp Rheoli Aur ar gyfer penderfyniadau a wnaed mewn perthynas ag ymateb y Cyngor i argyfwng COVID-19.

03/06/2020