Dymuna Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Gareth Davies, estyn cyfarchion arbennig i un o drigolion y sir ar ddathlu pen-blwydd arbennig yn 102 oed.

Mae Rose Florence yn un o breswylwyr Cartref Gofal Maesyfelin, Drefach, Llanybydder, sydd wedi cyrraedd carreg filltir nodedig yn ddiweddar.

Yn anffodus, ni fu modd iddi ddathlu gyda’i theulu eleni oherwydd cyfyngiadau y coronafeirws.

Derbyniodd lawer o gyfarchion a sawl thusw o flodau, ac er nad oedd modd trefnu ymweliad ar ran y Cyngor Sir, anfonwyd blodau ati gan yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Euros Davies.

Roedd pen-blwydd Rose Florence yn achlysur pwysig i’r cartref gofal yn Nrefach, gan mai Rose yw ail breswylydd y cartref i ddathlu pen-blwydd o 100 oed neu’n hŷn eleni.

Pob dymuniad da, a phen-blwydd hapus arbennig iawn i Rose Florence.

12/06/2020