Cynhaliwyd digwyddiad ar 30 Ebrill yng Nghanolfan Rheidol, Aberystwyth i gydnabod staff Cyngor Sir Ceredigion a fynychodd hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Aberystwyth a Chanolfan Iaith Ceredigion i ddarparu cyrsiau i ddysgu Cymraeg yn y Gweithle. Cydnabuwyd dros 125 o aelodau staff am eu hymroddiad i ddysgu'r iaith trwy fynychu dosbarthiadau rheolaidd.

Dywedodd un aelod o staff a oedd wedi mynychu’r cyrsiau, “Mae fy ngwasanaeth wedi elwa gan fy mod nawr yn ceisio cael sgyrsiau Cymraeg dros y ffôn. Gan fy mod yn ateb galwadau ffôn, os oes rhywun yn dechrau siarad â mi yn y Gymraeg, rwyf fel rheol yn eu deall nhw y tro cyntaf ac yn parhau gyda'r dasg heb amharu ar lif y sgwrs.”

Mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i ddosbarthu cynllun pilot a fydd yn galluogi’r Cyngor i gyflogi Swyddog Hyfforddiant Cymraeg Gwaith am flwyddyn gan ddarparu gwersi Cymraeg dwys yn y gweithle.

Cafodd y staff a fynychodd y digwyddiad groeso gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen Ap Gwynn. Dywedodd y Cynghorydd Ap Gwynn, “Ar ran y Cyngor, rwy’n llongyfarch yr holl staff sydd wedi rhoi’r amser, ymdrech a’r bwriad i fynychu’r sesiynau Cymraeg yn y Gweithle i wella eu sgiliau yn y Gymraeg. Hefyd, hoffwn roi cydnabyddiaeth i’r gwaith partneriaethol llwyddiannus rhwng y Cyngor â Chanolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a Gwasanaeth Dysgu Cymraeg i Oedolion Ceredigion. Bydd y cynllun peilot newydd yn gam cadarnhaol i sicrhau bod safon rhagorol o hyfforddiant Cymraeg yn cael ei ddarparu ac yn parhau. Bydd staff yn gallu datblygu eu hiaith ymhellach tuag at ruglder yn y Gymraeg, er eu budd eu hunain gan ychwanegu gwerth at wasanaethau ledled Ceredigion.”

Mae’r Cyngor yn hyrwyddo ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o’i fusnes. Ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth y Cyngor atgyfnerthu ei ddatganiad Polisi Iaith Gymraeg er mwyn gosod statws i’r Gymraeg o fewn y Cyngor, a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gwasanaeth ac aelodau staff wybod bod modd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg.

Gall trigolion defnyddio’u Cymraeg wrth gysylltu gyda’r Cyngor, dros y ffôn, drwy e-bost neu wasanaeth wyneb yn wyneb.

 

04/05/2018