Mae cronfa chwaraeon sy'n rhoi grantiau i glybiau yng Ngheredigion wedi rhoi £1m mewn grantiau ers iddi ddechrau 20 mlynedd yn ôl.

Mae Cist Gymunedol Ceredigion wedi bod yn rhoi grantiau i sefydliadau sydd eisiau cael mwy o bobl i fod yn egnïol, yn amlach. Yng nghyfarfod y panel ym mis Rhagfyr, fe ddaeth cyfanswm gwerth y grantiau sydd wedi ei roi i glybiau cymunedol yn fwy nag £1m.

Llwyddodd 11 cais i gael grant gan y Gist Gymunedol. Un o'r rhain oedd clwb chwaraeon anabledd The Mighty Ducks yn Aberystwyth. Bydd y grant a ddyfernir i'r clwb yn caniatáu iddynt brynu goleuadau synhwyraidd LED i'w defnyddio i ddatblygu ystwythder, cydbwysedd a chydlyniad ar gyfer plant ag anghenion arbennig. Bydd mwy na 40 o blant yn elwa o'r ychwanegiad cyffrous hwn.

Bydd Pwll Nofio Aberteifi yn defnyddio arian grant i brynu grisiau mynediad hawdd. Bydd hyn yn helpu'r nifer o nofwyr hŷn ac anabl sy'n ei chael yn anodd mynd i mewn ac allan o'r dŵr. Bydd dros 300 o bobl yn elwa o'r camau newydd.

Bu Clwb Kung fu Aberaeron yn llwyddiannus wrth wneud cais am gyfarpar newydd sbarian a fydd yn cael ei ddefnyddio gan oedolion a phlant.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Hamdden. Dywedodd, “Mae clybiau chwaraeon cymunedol yng Ngheredigion yn cael eu rhedeg gan bobl ymroddedig sy'n rhoi o'u hamser er budd y gymuned. Ni fydd y rhan fwyaf o glybiau yn gallu cael y gefnogaeth ariannol sydd ei hangen i ddiweddaru offer, hyfforddiant neu adnoddau. Dyna lle mae'r Gist Gymunedol yn gallu cefnogi. Mae’r ffaith bod dros £1m wedi ei roi mewn grantiau yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Mae Cist Gymunedol Ceredigion wedi chwarae rhan bwysig ym mwrlwm chwaraeon yn y sir, a hir y parhaed.”

Wendy Davies yw Cadeirydd Cist Gymunedol Ceredigion. Dywedodd “Rwy'n falch iawn o waith y panel hwn a'r hyn y mae'r grantiau wedi'i wneud o fewn ein cymunedau. Dros yr 20 mlynedd diwethaf rydym wedi gweld ceisiadau yn amrywio o Saethyddiaeth i Zumba ac ystod eang tu hwnt i rheini.

“Mae ein clybiau wedi elwa'n wirioneddol ac wedi datblygu i fod yn llefydd cymdeithasol cryf, a gweithgarwch corfforol wedi bod y ffactor sy’n eu glynu. Hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Ceredigion a Chwaraeon Cymru am wneud y bartneriaeth hon yn llwyddiant a hir y parhaed, edrychwn ymlaen at yr 20 mlynedd nesaf!”

Mae'r grantiau wedi galluogi cannoedd o hyfforddwyr a dyfarnwyr newydd i gymhwyso ac i offer hanfodol o bob math gael eu prynu gan glybiau gwirfoddol.

07/01/2020