Mae dros 300 fisor eisoes wedi eu cynhyrchu gan staff Ysgol Bro Pedr, Ysgol Penglais, Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Uwchradd Aberteifi i ddarparu offer amddiffyn sydd ei angen ar gyfer gweithwyr rheng-flaen yng Ngheredigion. Cynhyrchir y fisor ar dorrwr laser yr ysgolion ac mae cynlluniau ar waith i greu 2,000 yn fwy o’r fisors hanfodol hyn.

Dywedodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Ysgolion: "Rydym yn hynod ddiolchgar i'n staff sy'n defnyddio eu harbenigedd a'u hoffer ysgol i helpu eraill.".

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o'r cyfraniad y mae ein hysgolion yn ei wneud yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn, ac i'n holl staff a gwirfoddolwyr sydd wedi dangos y fath ewyllys da i helpu eraill.

06/04/2020